TEDx Prifysgol Caerdydd + CONNECT UP

03/11/2020 - 16:00
Online
Profile picture for user Creative Cardiff

Postiwyd gan: Creative Cardiff

TEDx Cardiff University logo

Mae TEDx Prifysgol Caerdydd yn ddigwyddiad blynyddol dan arweiniad Sean Hoare a Louise Hartrey o Brifysgol Caerdydd. Bellach yn ei drydedd flwyddyn, cynulliad lleol yw’r digwyddiad, lle mae cyflwyniadau a pherfformiadau byw ar ffurf TED gan staff, myfyrwyr, cynfyfyrwyr Prifysgol Caerdydd a gweithwyr proffesiynol cysylltiedig, yn cael eu rhannu â'r gymuned.

Bydd digwyddiad TEDx Prifysgol Caerdydd eleni, Creadigrwydd: diwydiant, yn cael ei gynnal ar-lein mewn partneriaeth â Caerdydd Creadigol a bydd yr wyth siaradwr yn mynd i’r afael ag ystod eang o bynciau sy’n canolbwyntio ar thema’r flwyddyn hon. Rhagor o wybodaeth am y digwyddiad ac archebwch eich tocynnau yma.

Ymunwch â ni ar ôl y cyflwyniad olaf, i gysylltu â'r siaradwyr a phawb oedd yn bresennol i drin a thrafod y cyflwyniadau rydych chi wedi'u clywed y diwrnod hwnnw. Rydym yn eich gwahodd i wneud cysylltiadau newydd, tanio syniadau newydd a pharhau â'r drafodaeth yn yr amgylchedd anffurfiol hwn.

Cofrestrwch ar gyfer eich lle RHAD AC AM ​​DDIM yn y digwyddiad hwn yma.

Rhowch wybod i ni os oes gennych unrhyw ofynion fel Iaith Arwyddion Prydain, adrodd llais i destun, neu gyfieithu ar y pryd o Saesneg i Gymraeg, ar y ffurflen gofrestru er mwyn i ni allu trefnu cefnogaeth. creativecardiff@cardiff.ac.uk

Cynhelir y digwyddiad hwn ar declyn cynadledda fideo Zoom. I lawrlwytho Zoom ewch i: https://zoom.us/download. Os oes angen unrhyw gymorth arnoch i ddefnyddio’r platfform hwn, rhowch wybod i ni wrth gofrestru.

*Sylwch, dim ond deiliaid tocynnau ar gyfer TEDx Prifysgol Caerdydd fydd yn cael mynediad at ddigwyddiad CONNECT UP.

 

Cyfeiriadur rhwydwaith

Ymunwch â'r rhwydwaith

Creu proffil cyfeiriadur i rannu eich gwaith ac i gysylltu a chydweithio â phobl greadigol eraill.

Jess Networking at a Creative Cardiff event