Mae Fio yn edrych i benodi arweinydd deinamig, cyffrous ac angerddol i ymuno â'r cwmni fel Cyfarwyddwr Gweithredol neu Uwch Gynhyrchydd, yn ddibynnol ar brofiad.
Rydym yn chwilio am rywun sy’n angerddol am wneud gwahaniaeth i bobl Mwyafrif Byd-eang yng Nghymru, i helpu creu newid diwylliannol. Mae gennym ddiddordeb mewn pobl sydd â chefndir yn y celfyddydau, ond hefyd y rhai a all fod yn newydd i’r maes hwn, ac sy’n gwbl agored i ailfeddwl yn radical am lwybrau i swyddi uwch arweinyddiaeth.
Lawrlwythwch gopi o'r pecyn swydd am ddisgrifiad manwl o'r swydd yn Gymraeg ac yn Saesneg: Jobs — Fio (wearefio.org.uk)
Sut i wneud cais
I wneud cais am y swydd hon, anfonwch CV diweddar; llythyr eglurhaol (2 dudalen ar y mwyaf) neu fideo (10 munud ar y mwyaf) yn ateb y fanyleb person ac yn amlinellu eich sgiliau a'ch profiad mewn perthynas â'r Meini
Prawf Hanfodol/Dymunol; manylion cyswllt ar gyfer dau eirda y gellir eu cysylltu os ydych yn cyrraedd yr ail gam cyfweliad, a Ffurflen Monitro Cyfle Cyfartal wedi'i chwblhau drwy'r linc ar ein tudalen swyddi Jobs — Fio (wearefio.org.uk)
Anfonwch y dogfennau hyn i jobs@wearefio.co.uk erbyn 10am dydd Llun 10 Mehefin 2024.
Am sgwrs anffurfiol gyfrinachol gychwynnol am y rôl, cysylltwch â'r Cyfarwyddwr Artistig a Prif Swyddog Gweithredol sita@wearefio.co.uk i drefnu cyfarfod.
Dyddiad cau: 10/06/2024