Mae gan Adran Chwaraeon BBC Cymru Wales hanes da o ddatblygu a darparu cynnyrch gwreiddiol a gwahanol ar y teledu, radio, ar-lein ac ar y Cyfryngau Cymdeithasol. Mae’r adran yn cynhyrchu cynnwys byw ac wedi’i recordio ymlaen llaw ar gyfer BBC Cymru Wales ac S4C, a dyma gartref rhai o brif frandiau’r BBC ac S4C, gan gynnwys Scrum V, Match of the Day a’r Clwb Rygbi.
Bydd disgwyl i'r Is-gynhyrchydd weithio ar raglenni rygbi a phêl-droed byw, yn ogystal â rhaglenni eraill sydd wedi’u recordio ymlaen llaw.
Mae gennym gefndir o ddarparu amrywiaeth o raglenni dogfen o safon uchel yn llwyddiannus i BBC Wales ac S4C. Bydd yr Is-gynhyrchydd llwyddiannus yn rhan bwysig o adeiladu ar y llwyddiant hwn drwy helpu i ddatblygu syniadau newydd a helpu i gyflawni ar amser ac o fewn y gyllideb.
Yr Ymgeisydd Delfrydol
Mae’n hanfodol cael gwybodaeth gadarn o’n cynnyrch a’n cynulleidfa a dealltwriaeth o hynny.
Cymryd rhan mewn gwaith o ddatblygu cysyniadau a chynnwys ar gyfer rhaglenni penodol, gan gynnwys; rhaglenni nodwedd, deunyddiau hyrwyddo, graffeg a’r holl elfennau sy’n cyrraedd gwylwyr BBC Wales/S4C.
Gallu cynhyrchu, golygu ac ysgrifennu sgriptiau, pytiau, nodweddion ac elfennau eraill ar gyfer sioeau byw ac sy’n cael eu recordio.
Darparu syniadau am straeon er mwyn datblygu elfennau rhaglen, o'r cysyniad i’r cyflawni.