Mae'n bleser gennym eich gwahodd i ddathlu ail ben-blwydd Caerdydd Creadigol mewn noswaith Dangos a Dweud yng Nghanolfan Mileniwm Cymru.
Mae Dangos a Dweud Caerdydd Creadigol yn ddigwyddiad chwarterol sy'n rhoi llwyfan i’r amrywiaeth gyffrous o bobl a phrosiectau creadigol yn y ddinas. Bydd 'Dangos a Dweud' yn dod â chymuned greadigol Caerdydd ynghyd, o dalent newydd i bobl brofiadol, i glywed am eu prosiectau cyfredol a'u dyheadau.
Bydd ein tri siaradwr yn rhoi sgwrs gryno, pob un yn 10 munud o hyd. Ac fe fyddent yn dod â rhywbeth i'w ddangos. Gallai'r gwrthrych fod yr hyn sydd wedi'u hysbrydoli, yn declyn maent yn ei ddefnyddio yn eu gwaith, neu'n rhywbeth sy'n rhoi cysur iddynt. Bydd y siaradwyr yn rhannu eu gwaith ac yn esbonio pwysigrwydd eu gwrthrychau.
Mae'r siaradwyr yn cynnwys Karen Mackinnon, Cyfarwyddwr Arddangosfa a Gwobr Celfyddydau Gweledol Artes Mundi a Jamie Rees, Cyfarwyddwr Marchnata yng Nghanolfan Celfyddydau Chapter a seren y sioe un dyn Oh Hello!, gyda rhagor i'w cyhoeddi, ynghyd ag adloniant pen-blwydd a newyddion ynglŷn â'n cynlluniau ar gyfer y flwyddyn o'n blaenau.
Os oes gennych unrhyw ofynion arbennig ar gyfer mynediad i'r digwyddiad hwn, anfonwch neges ebost at creativecardiff@caerdydd.ac.uk.