Dangos a Dweud

30/01/2017 - 18:00
Porter's Cardiff
Profile picture for user Creative Cardiff

Postiwyd gan: Creative Cardiff

Mae Dangos a Dweud Caerdydd Creadigol yn ddigwyddiad chwarterol sy'n rhoi llwyfan i’r amrywiaeth gyffrous o bobl a phrosiectau creadigol yn y ddinas. Bydd 'Dangos a Dweud' yn dod â chymuned greadigol Caerdydd ynghyd, o dalent newydd i bobl brofiadol, i glywed am eu prosiectau cyfredol a'u dyheadau.

Bydd ein tri siaradwr yn rhoi sgwrs gryno, pob un yn 10 munud o hyd. Ac fe fyddent yn dod â rhywbeth i'w ddangos. Gallai'r gwrthrych fod yr hyn sydd wedi'u hysbrydoli, yn declyn maent yn ei ddefnyddio yn eu gwaith, neu'n rhywbeth sy'n rhoi cysur iddynt. Bydd y siaradwyr yn rhannu eu gwaith ac yn esbonio pwysigrwydd eu gwrthrychau.

Archebwch nawr

Siaradwyr

Dyma’r rhai fydd yn rhannu eu prosiectau creadigol diweddaraf â ni:

  • Andrew 'Bernie' Plain o Musicbox Studios;
  • Kirsty Patrick o Homes by Kirsty;
  • Sam Wheeler, addysgwr llawrydd.

Andrew 'Bernie' Plain yw cyd-berchennog Musicbox Studios yng Nghaerdydd, ynghyd â Mark Foley. Busnes llogi seinchwyddwyr ac offer recordio ac ymarfer cerddoriaeth yw Musicbox, a dathlodd ei ben-blwydd yn 20 yn 2016.  

Mae Musicbox wedi bod yn ddolen gyswllt bwysig i bob math o fandiau yng Nghymru dros yr ugain mlynedd ddiwethaf, ac maent yn parhau i fod yn gysylltiedig â rhai o’r digwyddiadau gorau a gynhelir yn y ddinas, fel Gŵyl Sŵn.  

Mae Bernie wedi bod yn ddrymiwr mewn nifer o fandiau ac ar sawl albwm hefyd yn ystod y cyfnod hwn, ac mae John Cale, The Webb Brothers, Martin Carr a Vito ymhlith y rhai y mae wedi chwarae gyda nhw.

Mae hefyd yn un o ddeuawd Right Hand Left Hand a enwebwyd ar gyfer Gwobr Gerddoriaeth Cymru y llynedd. 

Mae Bernie yn parhau i reoli teithiau a rhoi darpariaeth dechnegol i Los Campesinos, Future of the Left, Super Furry Animals a Kids in Glass Houses, ymhlith llu o fandiau eraill.

Oherwydd ei brwdfrydedd at ddylunio a'i chred y dylai cartrefi ysbrydoli pobl, sefydlodd Kirsty Patrick ei chwmni Home byKirsty yn 2014. 

Mae HBK yn gwerthu eitemau gan 70 o ddylunwyr-gwneuthurwyr blaenllaw yn y DU, ac mae 25 ohonynt yn dod o Gymry ac yn cynhyrchu eu nwyddau yma. Mae HBK yn falch iawn o hyrwyddo nwyddau sy'n rhoi'r pwyslais ar y dyluniad o Gymru a gwledydd Prydain, a dyma sy'n gwneud ei siop hi'n wahanol i siopau eraill ar y stryd fawr neu mewn arcedau siopa Caerdydd.

A hithau'n ddylunydd-gwneuthurwr ei hun, mae Kirsty bob amser wedi mwynhau dod o hyd i siopau annibynnol sy'n gwerthu nwyddau tŷ. Roedd yn ymddangos nad oedd llawer o siopau yng Nghaerdydd a oedd yn gwerthu nwyddau sy'n rhoi'r pwyslais ar y dyluniad, felly ei nod oedd newid hyn ac arddangos y nwyddau gorau ar gyfer cartrefi ei chwsmeriaid. Ei gobaith yw ysbrydoli pobl Caerdydd a thanio eu brwdfrydedd dros ddylunio ar gyfer y cartref.

Mae Kirsty o'r farn bod cefnogi'r ardal leol yn bwysig dros ben, a dyna sydd wrth wraidd HBK. Gweledigaeth Kirsty yw'r map Get Lost in Cardiff, sef llawlyfr arbennig sy'n dangos y lleoedd gorau i siopa, bwyta a mwynhau. Lluniodd Kirsty'r map gyda thîm o weithwyr llawrydd a pherchnogion busnesau bach yng Nghaerdydd. Mae'r tîm yn credu mewn pwysigrwydd busnesau annibynnol, cydweithio, gweithio i gyflawni pethau, a siopa'n lleol. Roedd y map cyntaf yn cynnwys naw busnes annibynnol gwych, ac mae'r tîm yn hynod falch bod yr ail fersiwn wedi ehangu i gynnwys llawer mwy.

Symudodd Sam Wheeler i Dde Cymru ym mis Chwefror 2016 o Lundain, lle buodd yn byw am 11 mlynedd, ac mae wedi ymgolli yn yr holl bethau sydd gan Gymru i'w cynnig – yn cysylltu, cydweithio a datblygu prosiectau.

Mae hi'n weithiwr llawrydd sy'n gweithio mewn amrywiaeth o sectorau ledled y DU. Hyd yma mae hyn i gyd wedi ymwneud ag entrepreneuriaeth, busnesau newydd, technolegau addysg, datblygu talentau a phobl ifanc, dysgu a datblygu proffesiynol, partneriaethau ac ymgysylltu â chyflogwyr, effaith gymdeithasol, menter gymdeithasol, hyfforddi ac addysgu, sgiliau technoleg/digidol, creadigrwydd/celfyddydau/theatr, cynaliadwyedd a chymuned. Mae Sam yn addysgwr sy'n creu cyfleoedd ac yn cefnogi pobl.

Mae Sam wedi ymaelodi â'i Chynghrair Gwledig lleol ym Mwlch a Llan-gors, Cardiff Coalition, Urbanistas Caerdydd, WomenEd a NourishEd. Mae wedi bod yn gwirfoddoli, ymgynghori a chefnogi amryw elusennau, busnesau newydd, cwmnïau ac unigolion eraill hefyd, gan gynnwys MakerClub, Pyka a Hwyl Hub.

Mae Sam a'i diweddi, Victor Phillips, yn rhedeg Single Malt Teapot, cwmni creadigol amrywiol, ac yn rhannu eu taith ddymunol drwy fywyd, gan arddangos gwaith pawb sy'n cwrdd â nhw ar y ffordd. Bydd Single Malt Teapot yn cynnig rhywle i aros fel rhan o ŵyl a fydd yn cael ei lansio yn 2017.

Mae Sam wrth ei bodd yn cwrdd â phobl newydd, yn cael effaith, yn cydweithio, ac yn rhoi yn ôl i'r gymuned.

Gwybodaeth hanfodol
Caerdydd Creadigol: Dangos a Dweud 
Dyddiad: Dydd Llun, 30 Ionawr. 6pm-7.30pm.
lleoliad: Porter's Caerdydd, Bute Terrace, Caerdydd, CF10 2FE.
Tocynnau: Di-dâl, hanfodol cadw lle. Archebwch yma

Os oes gennych unrhyw ofynion arbennig ar gyfer mynediad i'r digwyddiad hwn, anfonwch neges ebost at creativecardiff@caerdydd.ac.uk.

Cyfeiriadur rhwydwaith

Ymunwch â'r rhwydwaith

Creu proffil cyfeiriadur i rannu eich gwaith ac i gysylltu a chydweithio â phobl greadigol eraill.

Jess Networking at a Creative Cardiff event