Cefndir/crynodeb
Mae Tîm Menter a Dechrau Busnes Prifysgol Caerdydd yn rhoi arweiniad a chefnogaeth i fyfyrwyr sy'n lansio busnesau newydd. Maen nhw'n chwilio am sefydliad marchnata digidol i roi dewis o wasanaethau i gefnogi busnesau cychwynnol myfyrwyr gyda'u strategaethau marchnata digidol. Yn ôl pob tebyg, hwn fyddai profiad cyntaf y myfyrwyr o gefnogaeth broffesiynol gyda'u hymdrechion marchnata. Dylai hyn gynnwys cyngor ac arweiniad ymgynghorol i nifer penodol o fyfyrwyr (niferoedd i’w trafod a chytuno arnynt), a gwasanaethau mwy arloesol i nifer dethol o fyfyrwyr yn dilyn hynny. Y nod yw rhoi gwybodaeth a chefnogaeth i fusnesau sydd yn y camau cynnar a fydd yn eu helpu i sefydlu eu brandiau a'u seiliau cwsmeriaid yn gynt. Mae'r Tîm Menter a Dechrau Busnes yn barod i drafod a gall fod yn hyblyg o ran y dewis terfynol o wasanaethau y cytunwyd arno gyda'r sefydliad llwyddiannus. Rydym yn cydnabod y bydd y sefydliad llwyddiannus yn cynnig arbenigedd; gellir cynnwys cefnogaeth/arweiniad ar SEO, hysbysebion a delir, cynnwys y cyfryngau cymdeithasol a gwefannau, ymhlith yr enghreifftiau o wasanaethau i fyfyrwyr. Yn yr un modd, bydd angen i'r sefydliad llwyddiannus fod yn hyblyg o ran diwallu anghenion unigryw myfyrwyr pan mae hynny'n briodol. Rhaid rhoi'r holl wasanaethau ymgynghorol ac asedau cyfryngau i fyfyrwyr erbyn 31 Rhagfyr 2021.
Beth yw diben y gwaith?
• Rhoi cyngor ac arweiniad ymgynghorol i fyfyrwyr ac entrepreneuriaid graddedig diweddar ar farchnata a strategaeth ddigidol (nifer y myfyrwyr a'r fformat i'w trafod a'u cytuno arnynt).
• Cefnogi nifer ddethol o fyfyrwyr i gynllunio a gweithredu ymgyrch farchnata ddigidol (nifer y myfyrwyr i'w drafod a'i gytuno arno).
• Rhoi asedau cyfryngau digidol i nifer ddethol o fyfyrwyr a/neu roi cyngor ar adnoddau cyffredinol ar gyfer creu asedau cyfryngau e.e. i gefnogi eu dyheadau marchnata digidol (nifer y myfyrwyr i'w drafod a'i gytuno).
• Cynorthwyo'r Tîm Menter a Dechrau Busnes i ymgysylltu â myfyrwyr a'u cefnogi gyda'r dewis uchod o wasanaethau e.e. cynrychiolydd i fynd i ddigwyddiad i gyflwyno'r busnes a'r cymorth sydd ar gael i fyfyrwyr.
Amserlen:
• Dyfyniadau Dydd Mawrth 9 Mawrth 2021
• Penodi'r asiantaeth lwyddiannus: canol mis Mawrth
• Tîm Menter a Dechrau Busnes i gyhoeddi'r gwasanaethau i fyfyrwyr: EbrillMehefin 2021
• Cyflwyno gwaith i fyfyrwyr: Mehefin-Rhagfyr 2021
Cyllideb:
Cyfanswm y gyllideb (gan gynnwys TAW) yw £8,000 i dalu'r holl gostau gan gynnwys unrhyw gyfieithiad Cymraeg, talu treuliau cyflwynwyr gwadd, llogi stiwdio (os oes angen), a thrwyddedu cerddoriaeth. Bydd y myfyriwr unigol a/neu ei gwmni yn berchen ar y gwaith a wneir i bob myfyriwr. Mae'r cyllid yn rhan o ddyfarniad grant Prifysgol Caerdydd ar gyfer rhaglen Entrepreneuriaeth Ieuenctid Llywodraeth Cymru.
Anfonebu: Bydd Prifysgol Caerdydd yn cael anfoneb ar gyfer cyfanswm y gost. Er mwyn cydymffurfio â rhwymedigaethau blwyddyn ariannol, caiff cyfanswm y costau ei anfonebu yn brydlon ymlaen llaw. Yna, dylai hyn weithredu fel 'tab' neu 'gyfrif' ar gyfer y cyfnod sy'n weddill o gyflwyno gwasanaethau. Bydd angen i'r sefydliad sy'n gwneud y gwaith sicrhau ei fod yn cael ei osod fel y cyflenwr dewisol cyn iddo gael ei anfonebu.
Dyfyniadau Dylid anfon dyfynbrisiau ar gyfer y gwaith hwn i enterprise@caerdydd.ac.uk erbyn 23:59 ddydd Mawrth 9 Mawrth 2021. I drafod y gwaith neu unrhyw ymholiadau, cysylltwch â Rhys Pearce-Palmer drwy ebostio pearcer5@caerdydd.ac.uk