Caerdydd Creadigol: Dangos a Dweud

17/07/2017 - 19:00
Porter's Cardiff, Bute Terrace, Cardiff, CF10 2FE
Profile picture for user Creative Cardiff

Postiwyd gan: Creative Cardiff

Mae Dangos a Dweud Caerdydd Creadigol yn ddigwyddiad chwarterol sy'n rhoi llwyfan i’r amrywiaeth gyffrous o bobl a phrosiectau creadigol yn y ddinas. Bydd 'Dangos a Dweud' yn dod â chymuned greadigol Caerdydd ynghyd, o dalent newydd i bobl brofiadol, i glywed am eu prosiectau cyfredol a'u dyheadau.

Bydd ein tri siaradwr yn rhoi sgwrs gryno, pob un yn 10 munud o hyd. Ac fe fyddent yn dod â rhywbeth i'w ddangos. Gallai'r gwrthrych fod yr hyn sydd wedi'u hysbrydoli, yn declyn maent yn ei ddefnyddio yn eu gwaith, neu'n rhywbeth sy'n rhoi cysur iddynt. Bydd y siaradwyr yn rhannu eu gwaith ac yn esbonio pwysigrwydd eu gwrthrychau. 

Cyflwynir y digwyddiad hwn yn Gymraeg a bydd gwasanaeth cyfieithu ar y pryd ar gael.

Osian Williams

Sefydlodd Osian SSP Media yn 2012, yn ystod ei gyfnod yn astudio ym Mhrifysgol Bangor. Ar ôl graddio gyda gradd israddedig a gradd Meistr ym maes gwneud ffilmiau, aeth ymlaen i gael profiad ar amrywiaeth o brosiectau ffilmiau yn y DU ac yn rhyngwladol. 

Dyfarnwyd BAFTA Cymru i Owain yn 2013 pan oedd yn y Brifysgol, ac yn 2015, aeth ymlaen i fod yn feirniad BAFTA Cymru.

Dros y ddwy flynedd diwethaf, mae wedi cael cyfleoedd i deithio yn ôl ac ymlaen o Efrog Newydd, gan sefydlu rhwydweithiau, cydweithio â gweithwyr proffesiynol yn y diwydiant, a fwyaf diweddar, ffilmio gyda'r actor Matthew Rhys. Mae newydd orffen cyfarwyddo'r gyfres 8 rhan ar S4C, "Pobl y Rhondda" ym mro ei febyd, ar ôl cyfres gyntaf lwyddiannus yn 2016. 

Cwmni cynhyrchu annibynnol a buddugol yn ne Cymru yw SSP Media, sy'n rhoi gwasanaeth cynhyrchu o'r dechrau i'r diwedd i'w cleientiaid; o ddatblygu brîff i ffilmio, golygu, gwneud y raffeg, hyd at weld y ffilm derfynol.

 Yn ogystal â chynnig gwasanaeth llawn, gallant hefyd ddarparu criw, cit ffilmio o'r awyr ar gyfer gwaith darlledu a gwaith masnachol. Yn ddiweddar, maent wedi sicrhau criw ar gyfer rhaglen boblogaidd BBC3, Hayley Investigates, a Rhod Gilberts Work Experience ar BBC Wales.

Angharad Lee

Cafodd Angharad Lee ei geni a'i magu ym Mhorth yn y Rhondda. Mae hi wedi bod yn gyfarwyddwr theatr, opera a ffilm ers 2009, ac mae hefyd yn astudio ar gyfer MA mewn Rheoli'r Celfyddydau yng Ngholeg Brenhinol Cerdd a Drama Cymru.  Cyn hyn, bu'n hyfforddi i fod yn actores yng Ngholeg Brenhinol Cerdd a Drama Cymru, ac yn gantores yn yr Academi Gerddorol Frenhinol yn Llundain. Pan nad yw'n cyfarwyddo, mae'n treulio'i hamser yn creu Prosiectau Dysgu Creadigol ar gyfer Cyngor Celfyddydau Cymru, ac yn rheoli'r prosiectau hyn. Mae'n siarad Cymraeg a Saesneg yn rhugl. Angharad hefyd yw Hyfforddwr Llais a Shakespeare ar y cwrs Perfformiad BA yn y Drindod Dewi Sant, ac mae'n ddarlithydd gwadd sy'n arbenigo ym maes ysgrifennu newydd ym Mhrifysgol De Cymru a'r Coleg Cymraeg.

Manon Edwards Ahir

Mae Manon Edwards Ahir wedi treulio'r rhan fwyaf o'i bywyd gwaith yn y brifddinas yn gweithio yn sector y cyfryngau a chyfathrebu fel uwch newyddiadurwr, cynhyrchydd cyfres i deledu a chyfathrebwr proffesiynol.

Ar ôl 17 mlynedd mewn rolau amrywiol yng Nghaerdydd a Llundain, gadawodd Manon y BBC i sefydlu asiantaeth gyfathrebu ddwyieithog, Mela, gyda'i gŵr Ashok Ahir. Gan weithio gydag ystod eang o gleientiaid a brandiau adnabyddus ledled Cymru a thu hwnt, mae hi a'r tîm yn eu helpu i gyfleu eu straeon mewn ffyrdd newydd a chreadigol ar draws yr holl gyfryngau sydd eisoes yn bodoli a rhai sy'n datblygu.

Mae ganddi brofiad helaeth o gysylltiadau â'r cyfryngau ac wedi cyflwyno ymgyrchoedd cysylltiadau cyhoeddus ar gyfer cleientiaid megis Cymdeithas Bel-droed Cymru, BAFTA Cymru, Doeth am Iechyd Cymru, Llenyddiaeth Cymru, Menter Caerdydd, Cyngor Gofal Cymru, Corgi, Boom Cymru, Rondo a Bait. Fel golygydd profiadol yn y Gymraeg a'r Saesneg, mae hi wedi goruchwylio creu cynnwys ar ran Mela ar gyfer timau Addysg a Sgiliau a'r Iaith Gymraeg Llywodraeth Cymru yn ogystal ag ymgyrch lwyddiannus Ewro 2016 CBDC. Mae Manon hefyd yn darlithio mewn Newyddiaduraeth a Chyfathrebu yn Ysgol Newyddiaduraeth, y Cyfryngau ac Astudiaethau Diwylliannol Prifysgol Caerdydd.

Mae Manon a thîm Mela wedi'u lleoli yn Yr Hen Lyfrgell ac wedi bod yn rhan o'r ganolfan iaith Gymraeg o'r cychwyn cyntaf. Mae hi hefyd yn aelod bwrdd ar gyfer Gŵyl Ddawns Caerdydd a fydd yn cael ei chynnal am yr eildro fis Tachwedd eleni. Pan na fydd yn gweithio, gall Manon i'w gweld yn bennaf yn Nhreganna a Pontcanna yn ceisio osgoi'r rhedwyr brwd tra bod hi yn loncian yn araf i gael cappuccino neu ddau o unrhyw un o'r caffis parc gyda'i thri o blant.

ARCHEBWCH NAWR.

Os oes gennych unrhyw ofynion arbennig ar gyfer mynediad i'r digwyddiad hwn, anfonwch neges ebost at creativecardiff@caerdydd.ac.uk