Mae Dangos a Dweud Caerdydd Creadigol yn ddigwyddiad chwarterol sy'n rhoi llwyfan i’r amrywiaeth gyffrous o bobl a phrosiectau creadigol yn y ddinas. Bydd 'Dangos a Dweud' yn dod â chymuned greadigol Caerdydd ynghyd, o dalent newydd i bobl brofiadol, i glywed am eu prosiectau cyfredol a'u dyheadau.
Bydd ein tri siaradwr yn rhoi sgwrs gryno, pob un yn 10 munud o hyd. Ac fe fyddent yn dod â rhywbeth i'w ddangos. Gallai'r gwrthrych fod yr hyn sydd wedi'u hysbrydoli, yn declyn maent yn ei ddefnyddio yn eu gwaith, neu'n rhywbeth sy'n rhoi cysur iddynt. Bydd y siaradwyr yn rhannu eu gwaith ac yn esbonio pwysigrwydd eu gwrthrychau.
Canolfannau creadigol a mannau cydweithio yw thema ein pedwerydd digwyddiad Dangos a Dweud. Bydd y rhain yn cynnwys lleoedd y gall pobl greadigol ddod ynghyd i rwydweithio, ar gyfer busnes, datblygiad ac ymgysylltu â'r cyhoedd. Dros yr haf, mae nifer o ganolfannau creadigol a mannau cydweithio wedi eu hagor yn y ddinas, felly dyma’r amser delfydol i wybod rhagor am y lleoedd sydd ar gael a'r bobl sy'n eu cynnal.
Archebwch nawr
Siaradwyr
Dan Spain
Mae Dan yn ddarlunydd a chynllunydd yng Nghaerdydd sy'n gweithio yn y cyfrwng digidol a phrint gyda llond llaw o bobl hynod ddiddorol.
Yn 2014, fe sefydlodd gwmni Design Stuff, sy'n rhoi cyfleoedd rheolaidd i gynllunwyr ymgynnull, rhannu gwybodaeth a dod i adnabod ei gilydd.
Mae Design Stuff yn ddigwyddiad misol am gynlluniau pob math o bethau. Bob mis, bydd dau weithiwr proffesiynol creadigol yn trafod pwnc o ddiddordeb ym maes cynllunio. Mae siaradwyr wedi trafod pynciau amrywiol megis cynllunio 3D, teipograffeg llaw a phŵer llyfrau braslunio, cynllunio ar wefannau cymdeithasol, gweithio'n rhyngwladol a chael robotiaid yn cymryd ein lle! Yn Design Stuff, mae'r gymuned yn dod ynghyd i wrando ar bobl ddiddorol, cael ambell ddiod hamddenol, gwneud cyfeillion newydd a mwynhau eu hunain yn gyffredinol.
Yn dilyn trafodaethau a phrosiectau ar y cyd a ysgogwyd gan Design Stuff, sefydlodd Dan Rabble Studio ym Mehefin 2016, sef man cydweithio i'r gymuned lle gall pobl greadigol weithio gyda'i gilydd i wneud gwaith gwych.
Louise Harris
Louise yw sylfaenydd cwmni Big Learning Company, sy'n cynnig hyfforddiant, cynnwys a phrosiectau arloesol ym mhob maes addysgu ledled Cymru.
Mae Louise hefyd newydd agor man cydweithio yng Nghaerdydd o'r enw Tramshed Tech. Fe’i leolir yn hen adeilad y Tramshed sydd wedi cael ei drawsnewid ar Heol Clare a Stryd Pendyris yn Grangetown. Amcan Tramshed Tech yw dod â'r diwydiannau technoleg a chreadigol ynghyd, a chreu amgylchedd sy'n annog cydweithio.
Mae Louise hefyd yn cydweithio â London Riverside Studios ar agoriad Gŵyl Adloniant Ddigidol Caeredin.
Sarah Valentin a Julia Harris
Agorodd y chwiorydd Sarah Valentin a Julia Harris The Sustainable Studio ym mis Gorffennaf 2016. Mae wedi cymryd bron i flwyddyn i wireddu eu syniad – gan gynnwys dod o hyd i adeilad a'i addurno – ond maen nhw wedi cyrraedd diwedd y daith ac yn hapus i fod yn gweithio ochr yn ochr â nifer o bobl wych yn barod.
Dylunydd ffasiwn yw Sarah, ac mae wedi gweithio yn y diwydiant ers mwy na 15 mlynedd. Cyfansoddwr a cherddor yw Julia a syrthiodd i fyd ffasiwn tua saith mlynedd yn ôl – damwain ffodus, oherwydd ynghyd â'i chwaer Sarah mae hi bellach yn rhedeg DATI, sef brand dillad cynaliadwy a fydd yn lansio'n hwyrach eleni.
Ar ôl dechrau label ffasiwn uwchgylchu yn 2011, a chael llwyddiant yn gwerthu mewn marchnadoedd lleol yn ne Cymru, dechreuodd Sarah a Julia weithdai a oedd yn canolbwyntio ar ailgylchu dillad gwastraff ac addysgu sgiliau gwnïo sylfaenol gydag elusennau Barnardo's, Ymddiriedolaeth y Tywysog a BAWSO, ag enwi ond ychydig.
Dros y ddwy flynedd ddiwethaf, maen nhw wedi canolbwyntio ar feithrin doniau pobl leol ac ar gynorthwyo pobl greadigol, gyda'r nod o'u gweld yn ffynnu. Tua diwedd y flwyddyn ddiwethaf, teimlodd y chwiorydd y dylent ehangu'r fenter a chreu gofod ar gyfer cydweithio sy'n ysbrydoli unigolion a busnesau â'r un egwyddorion.
Maen nhw'n gobeithio y bydd pobl eraill yn gallu elwa o'r un cymorth ac anogaeth maen nhw wedi'u cael drwy weithio yn The Sustainable Studio. Man i gasglu, dysgu, rhannu sgiliau, cyfnewid syniadau a gwybodaeth, rhwydweithio a chydweithio ar brosiectau yw hwn, a hynny nid yn unig at ddibenion busnes, ond hefyd er lles y gymuned ehangach.
Gwybodaeth hanfodol
Caerdydd Creadigol: Dangos a Dweud 4
Dydd Llun, Medi 26, 2016, 6pm - 7.30pm.
lleoliad: Porter's Caerdydd, Bute Terrace, Caerdydd, CF10 2FE.
Tocynnau: di-dâl, hanfodol cadw lle. Archebwch yma.
Os oes gennych unrhyw ofynion arbennig ar gyfer mynediad i'r digwyddiad hwn, anfonwch neges ebost at creativecardiff@caerdydd.ac.uk.