Ymddiriedolwyr

Cyflog
rôl wirfoddol - oriau: tua 25 y flwyddyn
Location
Caerdydd
Oriau
Other
Closing date
01.03.2021
Profile picture for user Artes Mundi

Postiwyd gan: Artes Mundi

Dyddiad: 2 December 2020

Mae Artes Mundi am recriwtio pum ymddiriedolwr newydd i’n Bwrdd, yn ogystal â Chadeirydd. Rydym yn chwilio am bobl all gyfrannu i’n gwaith parhaus drwy eu sgiliau, gwybodaeth a rhwydweithiau i gefnogi'r tȋm staff, yn ogystal â chynorthwyo â gwireddu ein cenhadaeth. Mae hyn wedi’i anelu’n bennaf at ysgogi deialogau a thrafodaethau, yn rhyngwladol ac yn lleol, sy’n datblygu gwell dealltwriaeth ohonon ni ein hunain, o bobl eraill a’r berthynas rhwng diwylliannau cyfarwydd a phell.

Rydym yn annog yn arbennig ddatganiadau o ddiddordeb gan bobl groenliw a phobl iau (o dan 35 oed) yn ogystal â’r rheini y mae eu profiadau a’u safbwyntiau wedi’u tangynrychioli ar hyn o bryd ar y Bwrdd ac yn sector y celfyddydau.

Am sgwrs anffurfiol a mwy o wybodaeth, cysylltwch â Lianne Toye, Dirprwy- Gyfarwyddwr a Phennaeth Datblygu ar lianne.toye@artesmundi.org