Swyddog Cyfathrebu Digidol

Cyflog
£27k pro rata, 15 awr, Gweithio’n hyblyg
Location
Caerdydd
Oriau
Part time
Closing date
20.09.2020
Profile picture for user Cynnal Cymru

Postiwyd gan: Cynnal Cymru

Dyddiad: 12 September 2020

Ydych chi’n gyfathrebwr profiadol gyda record profwyd o ddatblygu cyfathrebiadau effeithiol a gafaelgar.

Gallech chi’n helpu ni i gyflymu gweithred tuag at ddyfodol cynaliadwy?

Mae cyfle cyffrous wedi codi am Swyddog Cyfathrebu Digidol gyredig, creadigol a dyfeisgar i ymuno â Cynnal Cymru-Sustain Wales.

Cynnal Cymru – Sustain Wales yw’r sefydliad annibynnol arweiniol dros ddatblygiad cynaliadwy yng Nghymru. Rydyn ni’n bodoli er mwyn cyflymu cynnydd tuag at ddyfodol cyfiawn, llewyrchus a charbon-isel.

Fel elusen fach ac arloesol yn gweithredu o fewn Grŵp CGGC, Mae Cynnal Cymru yn herio meddwl traddodiadol ac yn hysbysu datblygiadau mwy cynaliadwy er mwyn dod a newid go iawn ledled Cymru a thu hwnt.

Wrth weithio gyda’n haelodau traws-sector a rhwydwaith ehangach, rydyn ni’n gosod yr agenda ac yn amlygu cyfleoedd am weithredu ar ddatblygiad cynaliadwy; cefnogi ein haelodau a chymunedau ymarfer gyda’u hagendau cynaliadwyedd; ac yn rhannu gwybodaeth trwy Waith hyfforddiant ac ymgynghoriaeth. Rydyn ni’n bartneriaid swyddogol i’r prosiect Carbon Literacy yng Nghymru a’r corff achredu i’r Cyflog Byw yng Nghymru.

Ein tîm bach yn darparu gwaith estynedig ar lawer o agendâu gan gynnwys newid yn yr hinsawdd a datgarboneiddio, teithio’n gynaliadwy, ynni adnewyddadwy, tai fforddiadwy, yr economi sylfaenol, tlodi mewn Gwaith, rheolaeth adnoddau naturiol a llawer mwy.

Mae Cynnal Cymru yn dechrau cyfnod cyffrous o gyflwyno cynnig aelodaeth Newydd ac yn ehangu ei rhwydwaith o bartneriaid, gan gynnwys creu gwefan hyfforddiant Newydd a chyfres o offer ac adnoddau i’r Economi Sylfaenol yng Nghymru.

Hoffwn ni gyflogi Swyddog Cyfathrebu Digidol i’n cefnogi ni trwy ein cyfnod nesaf ac i sicrhau ein bod ni’n gyrru ac yn cyflymu gweithred ar ddatblygiad cynaliadwy yng Nghymru a thu hwnt.

Cyfeiriadur rhwydwaith

Ymunwch â'r rhwydwaith

Creu proffil cyfeiriadur i rannu eich gwaith ac i gysylltu a chydweithio â phobl greadigol eraill.

Jess Networking at a Creative Cardiff event