Ydych chi’n barod am her? Oes gyda chi drwyn am stori?
Ydych chi wedi meddwl am yrfa fel newyddiadurwr digidol?
Mae ITV Cymru, mewn partneriaeth gyda S4C yn chwilio am bobl brwdfrydig sydd eisiau datblygu gyrfa ym myd newyddiaduraeth yn y Gymraeg.
Byddwch yn dilyn cynllun hyfforddiant am 9 mis, yn creu cynnwys digidol ffurf fer i Hansh ac yn cael profiad o newyddiadura ar straeon materion cyfoes a gwleidyddol o fewn ITV Cymru Wales.
Bydd gennych syniadau i greu cynnwys digidol arloesol i gynulleidfaoedd newydd ac angerdd i chwilio am straeon amrywiol o gorneli o Gymru sydd weithiau yn cael eu tan-gynrychioli.
Am fwy o wybodaeth ewch i www.itvjobs.com
Mae ITV wedi ymrwymo i gynyddu amrywiaeth o fewn y gweithlu ac rydym yn annog ceisiadau gan ymgeiswyr o bob cefndir, yn arbennig gan bobl anabl, lleiafrifoedd ethnig neu bobl o gefndir difreintiedig.
“ITV, lle mae creadigrwydd, amrywiaeth a chydweithio yn ein rhoi wrth galon diwylliant poblogaidd.”
Dyddiad Cau: 21ain o Fedi 2020