Golygydd Cynnwys y We - Cyngor Celfyddydau Cymru

Cyflog
/
Location
Caerdydd
Oriau
Full time
Closing date
22.09.2020
Profile picture for user Creative Cardiff

Postiwyd gan: Creative Cardiff

Dyddiad: 11 September 2020

Un o gyfrifoldebau Cyngor Celfyddydau Cymru yw darparu gwybodaeth gywir a hygyrch am ei bolisïau, ei weithgareddau a'i wasanaethau. Y prif gyfrwng i gyfathrebu â chyhoedd amrywiol yw gwefan y Cyngor.

Rydym yn chwilio am Olygydd Cynnwys y We i gynnal trosolwg golygyddol o gynnwys a safon ei wefannau gan ddarparu ffordd gadarnhaol a chyson o fynd ati o ran cyfathrebu mewnol ac allanol ar ein gwefannau rhyngrwyd a mewnrwyd. Amddiffynna'r Golygydd enw da a brand y Cyngor ar lwyfannau'r cyfryngau cymdeithasol.

Bydd gan ddeilydd y swydd radd berthnasol a/neu brofiad proffesiynol eang gyda hanes o lwyddo o ran rheoli gwefannau/cynnwys mewnrwydi a sianeli'r cyfryngau cymdeithasol.  Mae gwybodaeth o faterion cyfle cyfartal, yn benodol o ymarfer da wrth ddarparu safonau hygyrchedd gwefannol, a gwybodaeth o'r Ddeddf Diogelu Data yn hanfodol.

Gweithiwn drwy gyfrwng y Gymraeg a'r Saesneg ac mae rhuglder yn y Gymraeg (ar lafar ac yn ysgrifenedig) yn hanfodol ar gyfer y swydd hon.

Mae ein buddion yn cynnwys oriau/patrwm gwaith hyblyg, gwyliau hael a chynllun pensiwn. 

Dyddiad cau:             12:00 canol ddydd ar ddydd Mawrth 22 Medi 2020

Cyfweliadau:             Dydd Iau 1 Hydref 2020

Dylid anfon ffurflenni cais at AD@celf.cymru

Noder, ni fydd CV yn cael eu derbyn.

Gweithredwn Bolisi Cyfle Cyfartal ar recriwtio ac chroesawn geisiadau gan bob adran o'r gymuned yn y Gymraeg neu Saesneg.

Cyfeiriadur rhwydwaith

Ymunwch â'r rhwydwaith

Creu proffil cyfeiriadur i rannu eich gwaith ac i gysylltu a chydweithio â phobl greadigol eraill.

Jess Networking at a Creative Cardiff event