Ydych chi'n rhywun sy'n credu mewn grym rhoi pobl a phrosesau wrth wraidd diwylliant sefydliad?
Ydych chi'n credu yn y rôl y mae diwylliant, yn benodol y celfyddydau a chreadigrwydd, yn ei chwarae wrth adeiladu cymdeithas gref a chynaliadwy sy'n gosod llesiant cenedlaethau'r dyfodol wrth graidd ei hunaniaeth gyfunol?
Mae National Theatre Wales yn chwilio am berson angerddol a deinamig, gydag ystod o naill ai brofiad byw, neu broffesiynol o adeiladu timau cydnerth, grymus ac effeithlon sy'n canolbwyntio ar bobl, i ymuno â'n huwch dîm arweinyddiaeth.
Nid yw'r rôl hon yn gofyn am brofiad uniongyrchol o'r sector celfyddydau a diwylliant. Y nod yw ceisio ymgysylltu â rhywun sydd â diddordeb a chred yn yr hyn y gellir ei gyflawni pan fydd diwylliant staff â chysylltiadau dwfn wedi'i danategu gan brosesau a systemau crefftus, yn cyfuno â grym stori, cysylltedd dynol a mynegiant i effeithio ar newid ac ymdrechu tuag at Gymru fwy cyfartal, myfyriol a chymdeithasol-gyfiawn.
Mae'r rôl hon wedi'i chreu ar adeg ddigynsail i'r celfyddydau. Mae'r dyfodol yn cyflwyno heriau enfawr, ond mae gobaith a chyfle hefyd yn yr ymrwymiad i gydnabod - a datgymalu yn y pen draw - yr anghydraddoldebau strwythurol sy'n bodoli ar draws ein sector. Yn eistedd fel rhan o uwch dîm arweinyddiaeth NTW, bydd y rôl hon yn rhan allweddol o yrru ein ffocws ar ail-gydbwyso'r pŵer a'r fraint sydd wedi bodoli ers rhy hir, ac sy'n rhwystr i gydraddoldeb, cynrychiolaeth a chynhwysiant. Rydym yn croesawu ac yn annog ceisiadau o bob rhan o'r gymuned, crefyddau a chefndiroedd. Yn benodol rydym am apelio at y rhai sydd wedi'u tangynrychioli ar hyn o bryd yn y celfyddydau a'r theatr - gan gynnwys pobl sy'n profi hiliaeth, pobl anabl a/neu unrhyw un o gefndir dosbarth gweithiol. Pwy bynnag ydych chi, rydyn ni am glywed gennych chi.
Dyddiad cau ar gyfer ceisiadau: 12pm 22 Ionawr 2021
Gellir gweld y manylion llawn am y swydd a syt i geisio ar ein gwefan:-