Caerdydd Creadigol mewn sgwrs gyda Ffilm Cymru Wales

Profile picture for user Creative Cardiff

Postiwyd gan: Creative Cardiff

Dyddiad: 1 May 2020

Rhannodd Prif Weithredwr Ffilm Cymru Wales, Pauline Burt, rhagor o wybodaeth am eu pecyn cymorth newydd gwerth £530,000 ar gyfer y sector ffilm yng Nghymru yn ystod COVID-19. 

Yn ei chwestiwn agoriadol gan Gyfarwyddwr yr Economi Greadigol, Sara Pepper, siaradodd Pauline am effaith eithafol COVID-19 ar y diwydiant ffilm. Meddai: “Yn y bôn, does dim yn edrych yr un fath. Rydym yn ceisio edrych ar ddau faes a’u cefnogi, sef sut rydym yn dod â phobl at ei gilydd i ailddychmygu, a’r gwaith cyflym ledled y DU a Chymru i ddod ag eglurdeb i brotocolau diogelwch a allai gael eu defnyddio yn y dyfodol.” 

Mae Ffilm Cymru Wales hefyd wedi gorfod addasu a newid cyfeiriad eu gweithgareddau, yn ogystal â gweddill y diwydiant ffilm. Mae wedi bod yn gwneud hyn drwy gynnal trafodaethau â’r sector a chydweithio gyda’u bwrdd i greu atebion yn y tymor byr a’r hirdymor. 
 
Eglurodd: “Un o’r pethau cyntaf wnaethon ni oedd creu grŵp newid cyfeiriad, cymysgedd o aelodau bwrdd ac uwch-weithredwyr – pedwar aelod bwrdd, fi, ein Pennaeth Cynhyrchu a’n Pennaeth Cynulleidfaoedd ac Addysg. Rydym yn ceisio cyfuno hynny yn seiliedig ar y wybodaeth rydym yn ei chael gan y gwneuthurwyr ffilm, yr arddangoswyr, yr ymarferwyr addysg ffilm rydym ni'n siarad â nhw, y profiad sydd gennym o fod yn swyddogion gweithredol a'r oruchwyliaeth honno gan fwrdd profiadol iawn."  

“Felly, gallwn nodi cynigion yn gyflym iawn, gallwn ystyried sut y gallant weithio a gallwn gael ein herio gan ein bwrdd i ystyried y manylion.

“Byddwn yn adolygu ac yn addasu. A oes angen i ni ychwanegu at yr hyn sydd gennym? A oes angen i ni wneud rhywbeth newydd? A siarad â thrydydd partïon hefyd.”  

Yn sgîl yr argyfwng, mae Ffilm Cymru Wales wedi addasu ac ychwanegu at ffrydiau ariannu presennol yn ogystal â chreu cronfeydd brys i ymateb.

Wrth drafod y Gronfa Cymorth Brys, sy’n lansio heddiw (30 Ebrill) ac sy’n cau ar 15 Mai, dywedodd Pauline: “Dyma gronfa newydd sbon i ni, dydyn ni ddim yn gwybod beth fydd lefel y galw a byddwn yn dysgu wrth i ni fynd yn ein blaenau. Mae’n gronfa sydd wedi’i chreu’n gyflym am resymau amlwg.”
 
“Mae’r disgrifiad yn ei esbonio’n union, mae’n ymwneud ag angen brys – pobl yn gallu diwallu eu hanghenion sylfaenol yn y categori awduron, cyfarwyddwyr, cynhyrchwyr ac ymarferwyr addysg ffilmiau. Gallant wneud cais am hyd at £1500, ac os byddant yn llwyddiannus, nid ydym yn mynd i ofyn iddynt sut maen nhw’n mynd i ddefnyddio’r arian – eu dewis nhw fydd hynny. Bydd yn cael ei dalu mewn un swm a gobeithiwn y bydd yn rhoi rhywfaint o ryddhad ar unwaith.”
 
“Rydym yn ymwybodol bod llawer o ddawn a phobl yn gweithio yn y sector hwn sy’n disgyn rhwng y bylchau, yn enwedig ymhlith y grwpiau a nodir – yr awduron, cyfarwyddwr, cynhyrchwyr ac ymarferwyr addysg ffilmiau – ar y cyfan, dydyn nhw ddim yn cymhwyso ar gyfer y cymorth i weithwyr llawrydd na’r cynllun cadw swyddi. Dyna un o’r rhesymau pam ein bod yn canolbwyntio ar y doniau hynny fan hyn.” 

Mae sawl sector yn y diwydiannau creadigol ar hyn o bryd yn poeni am gael yr arian i’r rhai sydd ei angen fwyaf.

Dywedodd Pauline: “Rydym yn gofyn i bobl ddweud wrthym pa fath o gymorth maen nhw wedi’i gael a faint oedd y cymorth...er mwyn ein galluogi ni i weld faint yw’r angen hwnnw os ydym yn cyrraedd sefyllfa lle mae gormod o bobl wedi tanysgrifio i’r gronfa, a bod angen i ni orfod gwneud y dewis anodd o benderfynu pwy rydym yn eu cefnogi a phwy na allwn gefnogi.”  

Pwysleisiodd Pauline y byddai’r broses gwneud cais ar gyfer y Gronfa Brys mor syml a chyflym â phosibl.

Meddai: “Dydyn ni ddim yn gofyn cwestiynau amherthnasol, a bydd canllawiau cynhwysol a fydd yn dweud wrthych yr hyn i’w wneud. Rydym yn mynd i gyhoeddi penderfyniadau cyn gynted ag y bo modd – rydym yn gobeithio erbyn diwedd y mis.”   

Mae’r Gronfa Datblygu ar gyfer awduron, cyfarwyddwyr a thimau cynhyrchu sy’n datblygu prosiectau ffilmiau hir eisoes yn bodoli, ac mae bellach wedi’i datblygu er mwyn i bobl gael mynediad ati yn ystod pandemig COVID-19. Dywedodd Pauline: “Rydym yn ei haddasu ac yn ei haddasu o hyd...rydym yn bwriadu gwario’r un faint o arian y byddwn fel arfer yn ei wario mewn 12 mis chwe mis, a byddwn yn parhau i’w hadolygu o ran a fyddwn yn ychwanegu at y gronfa. 

Esboniodd Pauline eu bod yn gorfod ystyried yn ofalus y math o brosiectau y byddent yn eu hariannu yn sgil cyfyngiadau COVID-19. Meddai: “Mae angen i ni gael ymdeimlad o’r prosiectau a fydd yn ymarferol yn ein barn ni pan fydd hyn drosodd. Bydd mathau penodol o gynnwys a fydd yn fwy heriol nag eraill yn hynny o beth, felly, os ydych yn teithio dros bob man, yn cynnwys golygfeydd gyda thorfeydd mawr neu ddeunydd mwy personol, ni fydd y math hwnnw o gynnwys yn ymarferol.”
 
“Ystyriwch y math o gynnwys rydych yn anelu ato.”  
 
Mae Pauline yn gobeithio y bydd y cronfeydd hyn yn cael effaith donnog gadarnhaol ar y sector. Meddai: “Rydym yn wirioneddol annog gweithwyr proffesiynol eang i gyflwyno cais, yn enwedig nawr, gan fod dod o hyd i ffyrdd i ddelweddu a chyfleu’r math o gynnwys rydych yn ei ddatblygu’n bwysig. Gallai hynny fod yn ennyn diddordeb arlunydd cysyniadau neu olygydd sgriptiau er enghraifft...mae hynny’n mynd i fod yn bwysig. Rydym yn mynd i fod yn annog y budd ehangach hwnnw.”  

Taflodd Pauline hefyd oleuni ar bwysigrwydd manteisio ar eiddo deallusol, gan esbonio:  “Er mai cronfa ffilmiau ydym ni, ers cryn amser erbyn hyn, rydym wedi bod yn annog gwneuthurwyr ffilmiau i ystyried gwerth ehangach eu deunydd, boed yn gêm neu’n ap, yn gyhoeddiad neu’n drac sain. Mae’n ymwneud â’r hyn sy’n gwneud synnwyr i’w prosiect – ac os allai hynny ddatgloi marchnad ehangach neu greu rhyw fath o elw posibl hyd yn oed. Mae hynny’n rhywbeth sy’n werth edrych arno.” 

Mae Cronfa Horizons ar gyfer talent newydd, a gyflwynir drwy BFI NETWORK, yn cefnogi awduron, cyfarwyddwyr a chynhyrchwyr sy’n dod i’r amlwg, a bellach mae wedi’i lluosi bedair gwaith ei swm gwreiddiol. Dywedodd Pauline wrth drafod pwysigrwydd cefnogi’r categori hwn: “Mae talent newydd yn hanfodol wrth dyfu’r sector. Dyma’r peth mwyaf anodd ei wneud, sef datblygu gwaith os ydych yn wneuthurwr ffilmiau sy’n dod i’r amlwg heb hanes.”

“Gallwch wneud cais am hyd at £10,000 os oes gennych brosiect.” 

Esboniodd Pauline fod hyn yn gronfa hyblyg y mae modd ei haddasu i’ch anghenion posibl. Meddai: “Nid oes yn rhaid bod gennych brosiect i ddod i mewn ac i fanteisio ar y cymorth hwnnw, gallwch ddod i mewn i gael datblygiad proffesiynol...yn enwedig mentora. Yr hyn sy'n gyfle y tro hwn yw bod mentoriaid nad oeddent eisoes ar gael pan oeddent yn ffilmio bellach ar gael – felly mae lefel y mentora y gallwch fanteisio arno yn wych.”

“Os ydych yn gwneud cais am gyllid datblygiad proffesiynol, gallwch wneud cais am hyd at £6000.”

Gallwch gael rhagor o wybodaeth am y cronfeydd hyn, a darllen y canllawiau, ar wefan Ffilm Cymru. 

Mae Ffilm Cymru Wales wedi bod yn cysylltu ac yn cefnogi’r sector mewn nifer o ffyrdd y tu hwnt i’r cronfeydd hyn, gan gynnwys pecyn o astudiaethau achos a chyfleoedd, sesiynau un-i-un i wneuthurwyr ffilmiau ac ymarfer addysg ffilmiau, hyfforddiant a dosbarthiadau meistr. Dywedodd Pauline:“Gall fod yn anodd bod yn greadigol os ydych yn teimlo’n bryderus, felly ceisiwch ddod o hyd i adnoddau, technegau a ffyrdd i fynd i  mewn i’r man creadigol hwnnw, ac ystyried pa fath o waith rydych yn mynd i’w ddatblygu. Rydym yn ystyried sut y gallwn hwyluso hynny a thrafod syniadau.” 

Wrth drafod dull Ffilm Cymru Wales o hwyluso a chefnogi’r sector, dywedodd Pauline:  “Mae’n gyfnod arbrofol iawn, ac mae’n gynhyrchiol cael y sgyrsiau agored hyn, fel nad ydych chi, fel sefydliad, yn mynd allan gyda'r holl atebion. Does gan heb yr holl atebion. Rydym eisiau gofyn, gwrando, meddwl a bod yn barod i barhau i addasu.”  

Wrth drafod gweithwyr llawrydd, sy’n cyfateb i bron hanner y gweithlu yn y diwydiant ffilm, esboniodd Pauline fod Ffilm Cymru Wales yn gwneud “llawer iawn o eiriolaeth ar bob math o lefelau.” 

Dywedodd Pauline: Mae TV and Film Charity “wedi gwneud gwaith ardderchog gyda chronfeydd ledled y DU. Maen nhw wedi derbyn miliwn o bunnoedd gan Netflix, ac mae BFI, BBC a rhoddwyr preifat wedi ychwanegu at hynny. Gallai pobl y tu ôl i’r llenni, o’r set yn ogystal â gwyliau ffilm, wneud cais am hyd at £2,500 a hefyd am fenthyciadau os oeddent yn disgwyl cael arian gan gynllun cymorth i weithwyr llawrydd y Llywodraeth, ond a oedd yn ei chael hi’n anodd aros tan fis Mehefin – roeddent yn cynnal dwy raglen.”

“Mae eu galwadau wedi dod i ben, ond maen nhw’n codi arian ac yn gobeithio cynnal galwadau pellach, felly rwy’n annog gweithwyr llawrydd sydd mewn sefyllfaoedd heriol i gadw llygad am yr hyn sy’n digwydd gyda’r cronfeydd hynny.”

“Maen nhw’n dal i gynnig llinell gymorth ddydd a nos – gall hynny fod am unrhyw beth, cyllid personol, iechyd meddwl, dod o hyd i wybodaeth.

Siaradodd Pauline hefyd â Sara am anghenion criwiau ffilm llawrydd, a’r tasglu sector ffilm ledled y DU y mae'n aelod ohono, y gallwch gael rhagor o wybodaeth amdano yn y fideo uchod. 

Wrth drafod cael arian i griwiau ffilm llawrydd, esboniodd Pauline:  “Ni fyddem fel arfer yn cyrraedd y bobl hyn, rydym yn tueddu i ariannu’r rhai sy’n creu’r eiddo deallusol – maen nhw’n cynhyrchu’r amodau y mae’r swyddi hyn ar gael ynddynt ac maen nhw ar gael oherwydd bod sawl ariannwr yn dod ynghyd i ariannu’r prosiect hwnnw.”  


 
“Rydym wedi ystyried a allem roi arian, a allai Llywodraeth Cymru a darlledwyr roi rhywfaint o arian, ond mae nifer o heriau cysylltiedig. Yn gyntaf, nid yw darlledu wedi’i ddatganoli, ac mae Llywodraeth Cymru’n ceisio cefnogi pob sector ar hyn o bryd. Ni allaf warantu y bydd yn llwybr llwyddiannus, ond dyma'r math o sgyrsiau rydym yn eu cael ac yn eu hannog.” 

“Mae Bectu yn arwain trafodaethau gyda’r Trysorlys.”  

Mae tasglu o 75 o sefydliadau ledled y DU wedi dod at ei gilydd i drafod yr heriau presennol ac i ystyried yr atebion ar gyfer dyfodol y sector ffilm. Dywedodd Pauline:  
“Mae’n ehangach na ffilm, ond mae gan bob un ohonynt ddiddordeb mewn ffilm. Mae ganddo gynrychiolwyr o’r undebau, Bectu, Equity, Pact – cynrychiolwyr y cynhyrchwyr, gwahanol elfennau o bob rhan o’r sector, cynrychiolwyr o bob rhan o’r DU ac yn bwysig iawn mae ganddo’r llywodraeth yn eistedd arno - pedwar uwch-swyddog DCMS gan gynnwys y Pennaeth Polisi. ” 

“Mae'n ymwneud â sut i siarad yn effeithlon ag un llais â'r llywodraeth i weithio drwy heriau y mae pob un ohonom yn eu rhannu a thynnu gwybodaeth, gan feddwl ar y cyd ynghylch beth yw'r pethau y gallwn eu gwneud, beth yw'r mecanweithiau ar gyfer hynny, beth yw'r cynigion y gallwn eu llunio ar gyfer y llywodraeth yn eithaf cyflym...ac yna’n ceisio gwthio drwy'r mecanweithiau y bydd eu hangen arnom wrth edrych ar adfer.” 

“Rydym yn ystyried yr hyn sydd angen ar unwaith, yn trafod beth sydd angen ei wneud i weithwyr llawrydd, ac yr un modd, yn edrych i'r dyfodol, heriau fel protocolau penodol, iechyd a diogelwch ac ati. ”  

Wrth drafod y prif heriau y mae’r sector yn eu hwynebu o ran adfer ymadael, tynnodd Pauline sylw at dri phrif faes sy'n peri pryder – iechyd a diogelwch, yswiriant ac ymddygiad dyn.  

“Dyna iechyd a diogelwch yn yr amgylcheddau amrywiol. Sut rydym yn creu un gyfres o brotocolau? Os ydych yn gyfrifol am leoliad, ac yn ystyried faint o bobl y gallwch eu cynnwys yn y lleoliad hwnnw? Sut ydych yn cael pobl i gyrraedd a gadael yn ddiogel? Pa effaith y mae hynny’n ei chael yn ymarferol o safbwynt busnes ar y math o elw o ran tocynnau?” 

Wrth sôn am yswiriant, dywedodd Pauline:  “Yn yr un modd ag unrhyw fath o drychineb y gallech ddod ar ei draws, nid yw’n debygol y bydd unrhyw yswiriwr sy'n fusnes masnachol allan yn cynnig yswiriant i ddiogelu yn erbyn risg neu golled sy’n seiliedig ar COVID, felly rydym yn edrych ar sut rydym yn sicrhau nad yw'r cynhyrchwyr yn ysgwyddo’r holl risg ariannol. Mae nifer o gyfreithwyr yn creu syniadau, mae mecanweithiau rydym yn eu trafod gyda’r llywodraeth ganolog.”   

Y trydydd maes i'w ystyried wrth symud ymlaen yn ôl Pauline yw natur gymdeithasol y diwydiant ffilm: “Rydym yn sector sy’n ymwneud â bod yn gymdeithasol, rydym yn greaduriaid cymdeithasol, rydym yn hoffi ymgasglu. Rydym yn hoffi gweld cynnwys gyda’i gilydd mewn sinemâu. Beth yw effaith y pandemig ar sinemâu a gwyliau? Beth yw effaith hynny ar y gadwyn gwerth gyffredinol? Dyma gwestiynau mawr sy’n cael eu trafod, ac mae’n wych gweld sut mae pobl yn datrys problemau gyda'i gilydd.” 

Wrth ddod â’r sesiwn holi ac ateb i ben, taflodd Pauline rywfaint o oleuni ar rôl gadarnhaol ac agosatrwydd y diwydiant ffilm yn dod ynghyd i ddatrys pethau yn gyflym, a gofynnodd i’r rhai hynny sy’n gweithio yn y diwydiant i fod yn garedig i’w hunain yn ystod y cyfnod digynsail hwn. Meddai: “Rydym yng nghanol cyfnod anodd iawn, a waeth beth yw eich gallu – mae ymdeimlad enfawr o her ac mae angen datrys yr heriau hynny. Ond ni allwn ddatrys popeth, ac ni allwn eu datrys wrth ynysu.” 

“Efallai na fydd llawer o feddyliau yn gwneud gwaith ysgafn, ond mae'n ei wneud yn gyraeddadwy. Rwy'n teimlo'n gadarnhaol mewn cyfnod anodd, rwy'n teimlo ein bod ni'n gwneud popeth o fewn ein gallu i roi'r diwydiant yn ôl ar y trywydd iawn.” 

Wrth i’r sefyllfa esblygu, bydd Ffilm Cymru yn parhau â’r sgwrs gyda Llywodraeth y DU a Llywodraeth Cymru, y BFI ac eraill, ynglŷn â’r heriau yn sgil COVID-19 a’r ymyriadau sydd eu hangen i'w goresgyn. Croesewir adborth a gwybodaeth gan y gymuned ffilm yng Nghymru. Anfonwch ebost at  coronavirus@ffilmcymruwales.com 

Dewch o hyd i'n rhestr o adnoddau am y cronfeydd COVID-19 diweddaraf yma, rydym yn parhau i ddiweddaru'r rhestr yma mor aml ag sy'n bosib. 

Gwyliwch weddill ein digwyddiadau Mewn Sgwrs drwy glicio'r dolenni isod: 

Gerwyn Evans, Dirprwy Gyfarwyddwr Cymru Greadigol

Rhodri Talfan Davies, Cyfarwyddwr BBC Cymru

Nick Capaldi, Prif Swyddog Gweithredu a Phil George, Cadeirydd Cyngor Celfyddydau Cymru