Caerdydd Creadigol mewn sgwrs gyda BBC Cymru

Profile picture for user Creative Cardiff

Postiwyd gan: Creative Cardiff

Dyddiad: 23 April 2020

Mae Cyfarwyddwr BBC Cymru Rhodri Talfan Davies yn dweud bod llwyddiant y sefydliad yn dibynnu ar y sector annibynnol ac mae’n addo parhau i gomisiynu er mwyn sicrhau y bydd arlwy cryf o raglen pan gaiff y cyfyngiadau ar symudiadau eu dileu. 

Mewn sesiwn holi ac ateb byw gyda Chyfarwyddwr yr Economi Greadigol ym Mhrifysgol Caerdydd, Sara Pepper, soniodd Rhodri am yr effaith mae COVID-19 wedi'i chael ar BBC Cymru. 

Dywedodd: "Mae wedi bod yn brofiad dwys - yn sicr yn y tair wythnos gyntaf roeddem wedi ymroi'n llwyr i gynnal y gwasanaethau newyddion a gofalu am les y staff. 

"Roedd hynny'n golygu rhai newidiadau radical gan fod popeth roedden ni'n ei wybod am gynhyrchu ar gyfer teledu a radio wedi'i newid yn llwyr. Yn drosiadol, wedi'i daflu allan o'r ffenest oherwydd rheolau ymbellhau cymdeithasol a'r angen i gael pobl allan o'r swyddfa."

Rhannodd Rhodri fod 85% o staff BBC Cymru, o fewn tridiau, yn gweithio gartref a bod yr ystafell newyddion wedi gostwng o 180 o aelodau o staff yn gweithio ynddi ar unrhyw un adeg i 30 o bobl. Heddiw, cyflwynir amserlen gyfan Radio Wales o gartref ar 'dechnoleg na fyddem, fis yn ôl, wedi cymryd y risg arni'.

Aeth yn ei flaen: "Yr unig beth i'w ddweud yw eich bod yn gwir ganolbwyntio – pawb yn cymryd cyfrifoldeb. Roedd llawer o arloesi yn digwydd ar bob lefel o'r sefydliad. Rydych chi'n gweld arbenigedd ar draws y sefydliad yn canolbwyntio ar un her yn unig.

"Gall sefydliadau fel y BBC fod yn eithaf adrannol, mae pawb yn gweithio yn eu cwysau eu hunain, ond yn ystod y pedair wythnos diwethaf dw i ddim erioed wedi gweld gweithlu mwy unedig. Gall gwybodaeth gyhoeddus a newyddion da helpu i achub bywydau, ac mae hynny'n rym sy'n uno, sy'n rhoi egni ac sy'n ysgogi.

"Nawr, yn fwy nag erioed, mae dealltwriaeth bod darlledu gwasanaeth cyhoeddus yn eithaf canolog i ddeall cyflwr y DU, a chyflwr Cymru."

Yn ddiweddar, cyhoeddodd BBC Cymru gyfleoedd comisiynu a datblygu i gynorthwyo cwmnïau cynhyrchu annibynnol yng Nghymru yn ystod argyfwng COVID-19. 

Gan esbonio'r ymateb hwn, dywedodd Rhodri: "Mae'n syml iawn – yn hanesyddol, llywiwyd y BBC yn bennaf gan dimau mewnol a byddai'n ei chomisiynu ei hun i wneud ei sioeau ei hun. Mae hyn wedi'i weddnewid yn llwyr yn ystod y 10 mlynedd diwethaf ac mae ein llwyddiant, ar wahân i newyddion a chwaraeon, yn cael ei yrru gan y sector annibynnol. Caiff rhaglenni eithriadol eu gwneud gan gydweithwyr yn y sector annibynnol. Ac mae llwyddiant yn ystod yr argyfwng hwn yn dibynnu ar y sector annibynnol."

"Allwn ni ddim dod i mewn ar gefn ceffyl fel rhyw fath o farchog disglair ond gallwn ni barhau i gomisiynu. Mae gwneud yn siŵr bod y peirianwaith comisiynu yn symud o hyd yn hollbwysig - nid yw'n fater o daflenni neu grantiau - mae angen i ni sicrhau bod rhythm comisiynu'n parhau. 

"Pan ddown allan o'r cyfyngiadau symud, rydym am fod yn barod ar gyfer rhaglenni uchelgeisiol mawr y gallwn eu cefnogi. A'r ffordd o wneud hynny yw drwy weithio ar draws y sector, gyda'r goreuon, i gael arlwy cryf o raglenni."

Gallwch ddarllen mwy am y cyfleoedd hyn gan Nick Andrews, Pennaeth Comisiynu Cymru, yma. Mae Cronfa Cynhyrchwyr Annibynnol y BBC, i adeiladu cynaliadwyedd y tu allan i Lundain a De-ddwyrain Lloegr, hefyd wedi cael ei dyblu ac mae Nick yn gweithio i nodi cwmnïau yng Nghymru sydd yn y sefyllfa orau i ddefnyddio'r gronfa hon.

Yn ogystal ag ar gyfer y teledu, mae BBC Cymru yn comisiynu ar gyfer y radio yn Gymraeg a Saesneg.

Rhannodd Rhodri ragor am y diddordeb a gawsant hyd yn hyn: "Ym maes sain yn fwy na fideo, mae cyfyngiadau symud yn creu gofod creadigol gwahanol y gallwch ddal i chwarae gydag ef. Yn y cynigion rydw i wedi'u gweld, cafwyd syniadau go iawn ar gyfer drama radio ac mae ôl meddwl i’w weld. Y cwestiwn hwn ar sut rydym yn dychwelyd i sefyllfa normal. Mae’n dod yn amlwg yn y syniadau bod pobl yn dechrau meddwl y tu hwnt i'r 12 wythnos nesaf a sut y bydd hynny'n effeithio ar gymdeithas."

Roedd yn awyddus i bwysleisio: "Nid mater o gomisiynu yn unig yw hyn; mae'n ymwneud â phartneriaeth." 

Yn ystod yr wythnosau diwethaf, mae BBC Cymru wedi cyhoeddi partneriaeth gyda National Theatre Wales, Theatr Genedlaethol Cymru a Theatr Sherman o'r enw Rhwydwaith. Mae'n gyfle digidol i wneuthurwyr theatr.

Dywedodd Rhodri: "Gyda Phrosiect Rhwydwaith rydym yn darparu rhywfaint o gyllid a llwyfan darlledu, ond gallwn roi help a bod yn bartneriaid. Y theatrau sy'n gyrru hyn."

Mae rhwydwaith yn cymryd ymagwedd dreigl ac mae dal i chwilio am sgriptiau a syniadau a all fod yn rhan o'r prosiect. Cewch ragor o wybodaeth yma. 

Mae'r ymrwymiad hwn i weithio mewn partneriaeth yn glir yn dilyn y cydweithio rhwng Gŵyl Gomedi Machynlleth a gyhoeddwyd ganddynt yn ddiweddar. Bydd yr ŵyl yn mynd yn ei blaen ar BBC Radio Wales a BBC Sounds.

Dywedodd Rhodri: "Wrth i amser fynd heibio, byddwch yn dechrau canolbwyntio ar y materion eraill - sut rydych chi'n rhoi mwy o gynnwys i bobl ei fwynhau? Rydyn ni'n cael sgyrsiau tebyg ynglŷn â'r Eisteddfod...os na allwch chi ei wneud ar y maes, allwch chi ei wneud ar y radio? Sut gallwn ni weithio gyda phartneriaethau cenedlaethol allweddol i ddarparu rhywbeth gwahanol?"

Wrth gloi'r cyfweliad, anogodd Rhodri y sector i barhau â'r sgwrs 'fyw' hon os oes mwy y gallai BBC Cymru fod yn ei wneud. 

Dywedodd: "Yr hyn sy'n wirioneddol bwysig yw ein bod yn gallu gwneud popeth o fewn ein gallu i gefnogi'r sector ar adeg o her na welwyd mo'i thebyg o'r blaen. Y peth gorau i bawb yw gadael gyda chynllun a'r egni i godi yn ôl ar ein traed mor gyflym â phosib. 

"Dydw i erioed wedi dymuno i BBC Cymru fod yn gaer sy'n eistedd ar wahân i'r sector – mae'n rhaid i ni fod yn agored ac yn groesawgar a gweithio gyda'n partneriaid. Mae ein llwyddiant yn dibynnu yn y pen draw ar lwyddiant y sector." 

Mae Rhodri hefyd yn trafod pryd y bydd y gwaith teledu yn dod i ben ar gyfer darlledwyr, cynyrchiadau sydd yn mynd i gael eu hoedi a'r ymagwedd y mae BBC Cymru yn ei gymryd i weithwyr llawrydd gyda Sara. Gallwch wylio'r fideo llawn yma:

Os hoffech dderbyn y trawsgrifiad o'r fideo hwn, anfonwch e-bost at creativecardiff@cardiff.ac.uk. 

Dywedodd Sara Pepper, Cyfarwyddwr yr Economi Greadigol ym Mhrifysgol Caerdydd: "Diolch yn fawr i Rhodri am rannu'r amrywiaeth o gyfleoedd comisiynu a datblygu y mae BBC Cymru wedi eu dwyn ynghyd yn gyflym i gefnogi a galluogi'r diwydiannau creadigol a diwylliannol i greu a datblygu syniadau ac allbwn yn ystod COVID-19. 

"Roedd yn galonogol clywed mor ymroddgar yw tîm BBC Cymru nid yn unig o ran rhoi sylw i'r hyn sy'n digwydd a rhaglenni i'n ddiddanu ac i'n haddysgu, ond hefyd eu dull o ymgysylltu â'r sector creadigol yn ystod y cyfnod hwn. 

"Roedd yn arbennig o ddiddorol clywed am eu hagwedd nid yn unig at fynd i'r afael ag anghenion a chyfleoedd tymor byr, ond hefyd i ystyried datblygu syniadau ac allbwn ymatebol ac o ansawdd uchel dros y tymor canolig hefyd gan ein bod yn deall sut beth yw bywyd ar ôl cyfyngiadau symud."

Bydd y digwyddiad Yng Nghwmni nesaf... gyda Phil George, Cadeirydd Cyngor Celfyddydau Cymru a Nick Capaldi, Prif Swyddog Gweithredol Cyngor Celfyddydau Cymru ynghylch y cymorth ariannol y maent wedi'i roi ar gael ar gyfer y sector creadigol yn ystod COVID-19. Ceir manylion yma. 

Anfonwch unrhyw gwestiynau am eu cefnogaeth yn ystod COVID-19 i creativecardiff@caerdydd.ac.uk.

Mae ein rhestr o adnoddau am y cyfleoedd cyllido diweddaraf yn ystod COVID-19 i'w gweld yma. Rydym yn parhau i ddiweddaru'r rhestr hon mor aml â phosibl. 

Gallwch wylio sgwrs cyntaf Mewn Sgwrs gyda Chymru Greadigol am eu cronfeydd Teledu a Digidol Brys yma.