Ymchwilydd Prosiect Clwstwr

Cyflog
£120 y dydd. 25 diwrnod ar hyd 10 wythnos, yn dechrau ar 12 Hydref 2020
Location
Gweithio o gartref i ddechrau, gyda teithio tu fewn i'r DU (gan gydymffurfio â chanllawiau Covid-19
Oriau
Other
Closing date
28.10.2020
Profile picture for user Hijinx

Postiwyd gan: Hijinx

Dyddiad: 18 September 2020

Dyma gyfle gwych i ymuno â thîm Hijinx, sef un o’r prif gwmnïau yn y Deyrnas Unedig sy’n creu theatr gynhwysol ac yn darparu hyfforddiant perfformio i actorion ag anableddau dysgu a/neu awtistiaeth.

Mae Hijinx yn chwilio am unigolyn ymroddedig ac uchel ei gymhelliad i ymuno â nhw ar sail ranamser, dros dro i gefnogi eu prosiect ymchwil Clwstwr llwyddiannus.

Trwy ymchwil a chymhwyso’n ymarferol ar gam cynnar, bydd y cwmni theatr arobryn Hijinx, gyda chymorth y cwmni cynhyrchu Triongl, yn archwilio sut gallai cynnwys ar y sgrîn gael ei wneud mewn ffordd wirioneddol gynhwysol ar gyfer actorion ag anabledd dysgu a/neu actorion awtistig, a pha brosesau newydd a allai fod yn angenrheidiol i adrodd straeon mewn ffordd gynhwysol.

Mae’r ymchwilydd prosiect Clwstwr, sy’n cael ei gynnal ochr yn ochr â chamau datblygu cynnar ffilm nodwedd gyntaf Hijinx, sef being normal (teitl gweithio), yn ceisio ysgogi newid arwyddocaol a fydd yn para trwy annog diwydiannau’r sgrîn i weithio’n fwy cynhwysol. Mae’r rôl Ymchwilydd Prosiect Clwstwr yn rhan annatod o gamau cynnar y prosiect hwn. Bydd y rôl hon yn:

• Datblygu rhwydweithiau ac arferion cynhwysol Hijinx trwy ymgysylltu’n ddyfnach â chwmnïau cynhwysol eraill a chwmnïau sy’n gweithio mewn ffordd gynhwysol

• Cefnogi camau cynnar creu ffrwd refeniw newydd ar gyfer Hijinx, trwy ‘gynnyrch’ terfynol sydd wedi’i seilio ar ganfyddiadau Clwstwr

• Ychwanegu at enw da Hijinx ym myd ffilm a theledu trwy waith arloesol yn ymwneud â datblygu arferion cynhwysol y gellir eu defnyddio fel sylfaen mewn mentrau newydd ar draws diwydiannau’r sgrîn

• Cynyddu cyfleoedd cyflogaeth ar gyfer ein hactorion Hijinx sydd wedi cael llawer o hyfforddiant yn sgil mwy o amlygiad i’r diwydiant ehangach trwy’r prosiect hwn

I geisio am y rôl hon, anfonwch e-bost i dan.mcgowan@hijinx.org.uk gyda'ch CV a datganiad byr (dim mwy na 500 gair) sy'n dweud wrthym sut mae'ch profiad a'ch sgiliau yn berthnasol i'r gwaith. 

Dyddiad cau ar gyfer ceisiadau: 10am dydd Llun 28 Medi

Dyddiad cyfweliadau: Dydd Llun 5 Hydref

Dyddiad dechrau o ddewis: Dydd Llun 12 Hydref

Nid ydym yn gallu ymateb yn uniongyrchol i bob cais. Os nad ydych wedi clywed gennym o fewn tair wythnos o’r dyddiad cau ar gyfer y rôl hon, nid yw’ch cais wedi bod yn llwyddiannus y tro hwn.

Cyfeiriadur rhwydwaith

Ymunwch â'r rhwydwaith

Creu proffil cyfeiriadur i rannu eich gwaith ac i gysylltu a chydweithio â phobl greadigol eraill.

Jess Networking at a Creative Cardiff event