Y ganolfan dechnoleg gyntaf yn Ewrop i ymchwilio a datblygu celfyddydau trochol i agor yng Nghymru

Profile picture for user Creative Cardiff

Postiwyd gan: Creative Cardiff

Dyddiad: 2 October 2019

Mae CULTVR yn lansio'r hydref hwn yn ei gartref newydd yng Nghaerdydd. Bydd yn cynnig lle yn y ddinas sy’n ymroi i ddilyn arloesedd go iawn o fewn technoleg drochol.

Mae CULTVR mewn cyfleuster 10,000 troedfedd sgwâr ar Heol Penarth, a hwn yw’r man trawsddisgyblaethol trochol cyntaf yn Ewrop sydd â phwyslais cryf ar y celfyddydau digidol, perfformiad byw a sinema 360º. Mae'r lleoliad unigryw hwn yn caniatáu i dechnolegau trochol gael eu datblygu, eu profi a'u defnyddio, gan edrych ar ddulliau newydd o adrodd straeon o fewn perfformiadau a chyflwyniadau trochol.

Stiwdio arobryn 4Pi Productions sydd wedi creu CULTVR a bydd yn gartref i fyrdd o fannau trochol. Mae’r rhain yn cynnwys cromenni (domes) stereosgopig 10 troedfedd ac 20 troedfedd, parth chwarae realiti rhithwir a'r sgrîn fwyaf yng Nghymru mewn lleoliad cromen (dome) 40 troedfedd y gellir ei haddasu mewn sawl ffordd.

Dyfyniad gan Matt Wright, Cyfarwyddwr Artistig 4Pi Productions:

“Yn 4Pi rydym wedi bod yn arloesi ym maes creadigrwydd trochol ers dros 10 mlynedd, ac rydym yn gyffrous iawn ein bod yn agor ac yn rhannu'r gofod realiti rhithwir hwn i roi cyfle unigryw i grewyr a chynulleidfaoedd yn y DU archwilio'r cyfrwng diwylliannol hwn sy'n dod i'r amlwg."

Mae’r Lab yn creu amgylchedd lle gall cynhyrchwyr, technolegwyr, gwneuthurwyr ffilm a theatr, artistiaid, academyddion a pherfformwyr ddod ynghyd i fynd ar drywydd yr hyn mae’r cyfrwng unigryw hwn yn gallu ei wneud. 

Yn ystod yr wythnosau a'r misoedd nesaf, bydd CULTVR yn cyhoeddi’r rhaglen o ddigwyddiadau sydd ar y gweill. Ar gyfer ei lansiad yr hydref hwn bydd yn cyflwyno'r cynhyrchiad trochol Juniper, cydweithrediad rhwng 4Pi a'r band jazz a trip-hop o Gaerdydd, Slowly Rolling Camera. Comisiynwyd y darn hwn yn wreiddiol gan Ffotogallery i'w gyflwyno yng Ngŵyl Diffusion yng Nghanolfan Mileniwm Cymru yn ôl ym mis Ebrill 2019. I gael rhagor o wybodaeth, cofrestrwch i dderbyn yr e-gylchlythyr ar wefan CULTVR.

Bydd cynulleidfaoedd yn gallu cymryd rhan mewn profiadau rhithwir a rennir a chael eu cludo i leoliadau ledled y byd drwy ffrydio byw mewn 360º a delweddau trochi. At hynny, bydd CULTVR yn hwyluso’r perfformiadau cyntaf o gynyrchiadau a digwyddiadau celf trochol eraill yn y DU, cerddoriaeth fyw a phrofiadau byw unigryw a rennir. 

Dyfyniad gan Janire Najera, Cyfarwyddwr Creadigol 4Pi Productions:

“Mae mor gyffrous gallu dod â chynyrchiadau trochi rhyngwladol i Gymru gan nad ydyn nhw wedi gallu mynd ar daith o amgylch y DU hyd yma oherwydd diffyg lleoliadau addas. Byddwn yn gweithio ar sefydlu partneriaethau gyda gwahanol leoliadau cromen (dome) ledled y byd er mwyn i ni allu rhannu adnoddau Ymchwil a Datblygu a rhaglennu.”

Bydd 4Pi yn cynnal ei weithrediadau yn y cyfleuster newydd hwn ochr yn ochr â chwmnïau preswyl CULTVR, gan gynnwys label recordio annibynnol Cymru Bubblewrap Collective, stiwdio CGI United Filmdom a'r Rheolwr Marchnata Celfyddydau Llawrydd, Ymgynghorydd a Churadur Rachel Kinchin.