Cyfarfod y clwstwr technoleg drochi yn ne Cymru
Bu dau gyfarfod cyntaf VRSW ar gyfer cymuned y dechnoleg drochi sydd ar dwf yn ne Cymru, mewn partneriaeth ag Orchard Media ac Events Group Ltd yn ystod Dinasoedd Digidol BBC a Gŵyl Arloesedd Cymru yn lwyddiant. Felly mae’n bleser gennym gyhoeddi y byddwn yn cwrdd am y trydydd tro i ganolbwyntio ar gymhwyso rhith-wirionedd a realiti estynedig.
Bydd y clwstwr yn dod ynghyd i glywed gan siaradwyr, gan gynnwys Philip Webb o Felindre a James Taylor o Ysgol Newyddiaduraeth, y Cyfryngau a Diwylliant Caerdydd.
Bydd cyfle wedi hynny i rannu’n grwpiau i drafod ariannu a thendro yn ogystal ag ymchwil gymhwysol.
Os oes gennych unrhyw ofynion arbennig o ran mynediad, ebostiwch creativecardiff@caerdydd.ac.uk.