Mae S4C yn chwilio am Swyddog Cyfryngau Cymdeithasol er mwyn gweithio ar gyfrifon cyfryngau cymdeithasol y sianel.
Mae S4C yn ehangu'r tîm cyfryngau cymdeithasol ac yn chwilio am berson brwdfrydig sy'n gallu gwneud gwahaniaeth go iawn i fod yn Swyddog Cyfryngau Cymdeithasol er mwyn gweithio ar gyfrifon cyfryngau cymdeithasol y sianel ar draws amrywiaeth eang o genres. Mae hyn yn gyfle cyffrous i arloesi gyda chynnwys ac i ddatblygu darpariaeth y sianel ar amryw blatfformau.
Manylion Eraill
Lleoliad: S4C, Yr Egin, Caerfyrddin SA31 3EQ
Rydym yn annog pob cyflogai i gael cydbwysedd iach rhwng bywyd a gwaith ac yn cynnig trefniadau gweithio hyblyg, megis gweithio ystwyth, ynghyd ag ystod eang o batrymau gwaith gwahanol. Mae pob un ohonynt yn amodol ar anghenion busnes.
Oherwydd yr achosion o Coronafeirws, mae S4C wedi lleihau mynediad i'w swyddfeydd ar gyfer staff nad ydynt yn ymwneud â darlledu er mwyn sicrhau diogelwch a lles unigolion ac i ddiogelu darlledu. Felly, efallai y bydd gofyn i chi weithio o bell wrth ymuno â'r sefydliad os yw'r cyfyngiadau hyn yn dal i fod ar waith.
Cyflog: Yn unol â phrofiad
Cytundeb: 12 mis
Oriau Gwaith: 35 ¾ yr wythnos. Oherwydd natur y swydd, disgwylir hyblygrwydd, gan gynnwys gweithio tu allan i oriau swyddfa, ar rai penwythnosau a gwyliau banc.
Cyfnod Prawf: 6 mis
Gwyliau: Yn ychwanegol i'r gwyliau banc statudol, bydd gennych hawl i 26 diwrnod o wyliau gyda thâl y flwyddyn.
Pensiwn: Mae hawl gan staff cyflogedig ymuno â Chynllun Pensiwn Personol Grŵp yn ddarostyngedig i delerau unrhyw gynllun sydd mewn bodolaeth ac a ddiwygiwyd o dro i dro.Os byddwch yn aelod o'r Cynllun Pensiwn Personol Grŵp, bydd S4C yn cyfrannu 10% o'ch cyflog sylfaenol i'r Cynllun.Disgwylir i chi gyfrannu 5%.
Ceisiadau
Dylid anfon ceisiadau erbyn 12:00 y prynhawn ar ddydd Llun 30 Tachwedd 2020 at adnoddau.dynol@s4c.cymru neu Adnoddau Dynol, Canolfan S4C, Yr Egin, Caerfyrddin, SA31 3EQ.
Nid ydym yn derbyn CV.