Dawn ysgrifennu? Trwyn am stori? Profiad o weithio gyda newyddiadurwyr?
Rydym yn chwilio am Swyddog Cyfathrebu i ymuno â thîm y Wasg. Byddwch yn gyfrifol am ddweud wrth y byd am raglenni, cynnwys a gwasanaethau S4C.
Byddwch yn defnyddio amrywiaeth o sgiliau a thechnegau i gyfleu negeseuon a sicrhau sylw yn y wasg (print ac ar lein) er mwyn denu gwylwyr a chynnal trafodaeth rhwng S4C a'i rhan-ddeiliaid.
Byddwch hefyd yn defnyddio'ch profiad wrth ddelio gyda'r wasg, o dan gyfarwyddyd Arweinydd Tîm y Wasg a'r Cyfarwyddwr Cyfathrebu, er mwyn hyrwyddo negeseuon corfforaethol S4C yn rhagweithiol ac yn adweithiol.
Bydd gennych sgiliau ysgrifenedig Cymraeg a Saesneg o'r radd flaenaf, yn ogystal â sgiliau cyfathrebu, trefnu a chynllunio rhagorol.
Manylion Eraill
Lleoliad: Canolfan S4C:Yr Egin, Caerfyrddin, SA31 3EQ neu Swyddfa S4C, Doc Fictoria, Caernarfon, LL55 1TH.
Rydym yn annog pob cyflogai i gael cydbwysedd iach rhwng bywyd a gwaith ac yn cynnig trefniadau gweithio hyblyg, megis gweithio ystwyth, ynghyd ag ystod eang o batrymau gwaith gwahanol. Mae pob un ohonynt yn amodol ar anghenion busnes
Oherwydd yr achosion o Coronafeirws, mae S4C wedi lleihau mynediad i'w swyddfeydd ar gyfer staff nad ydynt yn ymwneud â darlledu er mwyn sicrhau diogelwch a lles unigolion ac i ddiogelu darlledu. Felly, efallai y bydd gofyn i chi weithio o bell wrth ymuno â'r sefydliad os yw'r cyfyngiadau hyn yn dal i fod ar waith.
Cyflog: £27,200 - £32,831 y flwyddyn (disgwylir y bydd yr ymgeisydd llwyddiannus yn cael ei ph/benodi ar ricyn gyntaf yr ystod gyflog)
Cytundeb: 9 mis
Oriau Gwaith: 35.75
Cyfnod Prawf: 4.5 mis
Gwyliau: 26 diwrnod yn ogystal a gwyliau banc.
Pensiwn: Mae hawl gan staff cyflogedig ymuno â Chynllun Pensiwn Personol Grŵp yn ddarostyngedig i delerau unrhyw gynllun sydd mewn bodolaeth ac a ddiwygiwyd o dro i dro. Os byddwch yn ymuno â'r Cynllun Pensiwn Personol Grŵp, bydd S4C yn cyfrannu 10% o'ch cyflog sylfaenol i'r Cynllun. Disgwylir i chi gyfrannu 5%.
Ceisiadau
Dylid cyflwyno ceisiadau erbyn 12:00 yn y prynhawn ar ddydd Iau 29 Hydref 2020. I ymgeisio ewch I wefan S4C: https://www.s4c.cymru/cy/swyddi/
Ni dderbynnir CV.
Gellir cyflwyno ceisiadau yn y Gymraeg. Ni fydd unrhyw gais a gyflwynir yn y Gymraeg yn cael ei drin yn llai ffafriol na chais a gyflwynir yn y Saesneg.