Mae Celfyddydau Cenedlaethol Ieuenctid Cymru (CCIC) am recriwtio Swyddog Cyfathrebiadau Digidol. Wedi ei ffurfio ym mis Hydref 2017, mae CCIC yn elusen nid er elw, gofrestredig a dyma’r sefydliad arweiniol sydd bellach yn gyfrifol am drosglwyddo’r chwe ensemble ieuenctid cenedlaethol yn ogystal â datblygu rhaglen waith blwyddyn gron, gynaliadwy sydd hefyd yn helpu i hybu gwell mynediad i’r celfyddydau ar gyfer pobl ifanc ledled Cymru, waeth beth fo’u cefndir.
Mae hwn yn gyfle cyffrous i gyfrannu at dwf a datblygiad pellach Celfyddydau Cenedlaethol Ieuenctid Cymru fel arweinydd diwylliannol, gan rannu gwybodaeth am ein gwaith er mwyn cynyddu mynediad i’r ensembles celfyddydau cenedlaethol ar gyfer perfformwyr ifanc talentog o Gymru, waeth beth fo’u cefndir. Bydd y rôl yn galw am rywun sy’n fodlon gweithio’n hyblyg ac yn annibynnol, gyda fawr ddim goruchwyliaeth.
Bydd yr ymgeisydd delfrydol yn gyfathrebydd hyderus gyda gwybodaeth gyfredol am lwyfannau cyfryngau cymdeithasol. Rydym yn chwilio’n benodol am rywun sy’n frwd ynghylch defnyddio marchnata digidol i gynyddu cyfranogiad pobl ifanc yng Nghymru yn y celfyddydau a’n helpu i gyfathrebu’r gwaith da a drosglwyddir gan Gelfyddydau Cenedlaethol Ieuenctid Cymru ar draws y wlad.
Mae rôl y Swyddog Cyfathrebiadau Digidol yn swydd rhan amser 21 awr yr wythnos y gellir eu gweithio dros 3 diwrnod, gyda chyflog o £22,000 y flwyddyn, pro-rata. Mae hwn yn gytundeb cyfnod penodol am 12 mis gyda’r posibilrwydd o swydd barhaol yn dilyn y cyfnod cytundeb cychwynnol.
I ymgeisio am y swydd, anfonwch eich C.V. cyfredol atom gyda llythyr eglurhaol yn amlinellu eich profiad perthnasol a’ch diddordeb yn y rôl. Dylid anfon ceisiadau trwy e-bost at nyaw@nyaw.org.uk
Y dyddiad cau ar gyfer derbyn ceisiadau yw Hanner Dydd ar Ddydd Mercher 21 Hydref 2020.