Sandra Gustafsson

Cafodd yr artistiaid a gymerodd ran, sydd i gyd yn cyfrannu at sîn greadigol Caerdydd, eu gwahodd i gyflwyno ffotograff yn cyfleu eu profiad o’r cyfyngiadau symud mewn rhyw ffordd

Profile picture for user Creative Cardiff

Postiwyd gan: Creative Cardiff

Dyddiad: 24 September 2020

 

PHOTO 1

Mae’r gwaith celf 3D hwn yn ‘giplun’ o rai o’r mannau creadigol cudd yn ystod y cyfyngiadau symud, yn ogystal ag adlewyrchu profiadau artistiaid o ganlyniad i bandemig COVID-19. Mae’r darn yn cofnodi’r amgylcheddau domestig, nas gwelir yn aml, lle mae creadigrwydd yn parhau i flaguro er bod mannau diwylliannol Caerdydd fel theatrau, lleoliadau cerddoriaeth, canolfannau cymunedol ac orielau wedi cau’n sydyn. 

Cafodd yr artistiaid a gymerodd ran, sydd i gyd yn cyfrannu at sîn greadigol Caerdydd, eu gwahodd i gyflwyno ffotograff yn cyfleu eu profiad o’r cyfyngiadau symud mewn rhyw ffordd. Yna, ysbrydolodd y ffotograffau y darluniau 3D y tu mewn i flychau matsys, gyda phob blwch matsys yn dangos amgylchedd un artist yn ystod y cyfyngiadau symud. Mae’r darluniau wedi’u creu gan ddefnyddio techneg llinell a golchi, gyda phenseli llinellu a dyfrliwiau lliwgar. Aed ati’n ofalus i dorri holl elfennau’r darluniau allan gyda fflaim a’u hailosod y tu mewn i’r blychau ar wahanol lefelau er mwyn creu ymdeimlad o ddyfnder. Mae’r gwaith celf yn cynnwys 18 o flychau matsys unigol wrth ymyl ei gilydd, gan adlewyrchu ystafelloedd mewn adeilad. 

PHOTO 2

Nod y darn yw creu ymdeimlad o gysylltedd a chymuned, yn enwedig ymhlith unigolion creadigol llawrydd sy’n gweithio ar eu pen eu hunain yn ystod y cyfyngiadau symud. Hefyd, mae’r gwaith celf yn anelu at ddangos bod Caerdydd yn ddinas greadigol ryngwladol, drwy gynnwys rhai o’r hunaniaethau cenedlaethol gwahanol sy’n creu sîn gelfyddydol Caerdydd, ochr yn ochr ag artistiaid o Gymru. Er mwyn creu’r darn hwn bu angen i’r cyfranogwyr ymateb a bu angen i’r artist ryngweithio, felly mae wedi bod yn broses organig a llyfn iawn. 

PHOTO 3

 

Disgrifiad clywedol wedi'i ddarllen gan Sandra Gustafsson:

I wybod mwy am Sandra Gustafsson a chrëwyr eraill y prosect Ein Caerdydd creadigol 2020, cliciwch yma.

Cyfeiriadur rhwydwaith

Ymunwch â'r rhwydwaith

Creu proffil cyfeiriadur i rannu eich gwaith ac i gysylltu a chydweithio â phobl greadigol eraill.

Jess Networking at a Creative Cardiff event