Rhywbeth Creadigol? Pennod 1:3 - Ydy Caerdydd yn Ddinas Cerddoriaeth?

Profile picture for user Creative Cardiff

Postiwyd gan: Creative Cardiff

Dyddiad: 26 March 2020

Podlediad i weithwyr creadigol a rheiny sydd â diddordeb yn y maes. Bydd 'Rhywbeth Creadigol?' yn dod â gweithwyr ac arbenigwyr o’r diwydiannau creadigol ynghyd i drafod y pynciau llosg sy’n effeithio arnyn nhw ar hyn o bryd, gan graffu ar yr ymchwil ddiweddaraf. 

Yn y drydedd bennod o 'Rhywbeth Creadigol?' ry'n ni'n sgwrsio gyda DJ Bethan Elfyn a Katie Hall o'r band CHROMA, am yr hyn mae'n golygu i fod yn ddinas cerddoriaeth a'r hyn mae'r sin gerddoriaeth yn y ddinas yn golygu iddyn nhw.

Mae DJ Bethan Elfyn yn cyflwyno sioe ar BBC Radio Wales, yn cynnal prosiect Gorwelion sy'n gwneud llawer i gefnogi artisitiad newydd yng Nghymru ac mae'n gyflywynydd, trefnydd digwyddiadau, siaradwr cyhoeddus a DJ. Mae hi hefyd yn aelod o Fwrdd Cerddoriaeth Caerdydd sydd wedi'i sefydlu'n ddiweddar. 


 
Mae Katie Hall yn canu mewn band alt-rock o Ferthyr o'r enw CHROMA. Maen nhw wedi perfformio mewn llawer o wyliau ar draws y Deyrnas Unedig: Leeds, Reading ac yn nes at adref yn Greenman, yr Eisteddfod a Tafwyl. 


 
Wrth sôn am y naws gymunedol sy'n bodoli yn y sîn gerddoriaeth yng Nghaerdydd, dywedodd Katie: "Mae Caerdydd fel 'the biggest village in the world'. Mae pawb yn nabod pawb. Mae hynny'n sicr yn rhywbeth reit gryf. Ond, dwi'n ymwybodol iawn bod yna ryw fath o divide rhwng y gymuned honno, a'r busnesau mawr sydd yna i wneud elw o'r ddinas..." 
 


Meddai Bethan: "Dwi'n really hoffi gweld y gwaith sy'n mynd i mewn i bob agwedd ar y sîn Gymraeg: Merched yn neud miwsig, yr amrywiaeth o fandiau a genres, yr artistiaid difyr. Dwi'n gweld hi'n sîn sydd wedi dod yn bell, mae'n soffistigedig ac mae'r artistiaid yn fwy agos at ei gilydd. Maen nhw'n teimlo fel teuluoedd, fel teulu Libertino a theulu Bubblewrap, teulu Twrw. Mae pobl yn really gefnogol o'i gilydd a ma hwnna'n creu awyrgylch positif a chreadigol."
 
Mae modd gwrando ar gân ddiweddaraf CHROMA, tair merch ddoeth, yma. 

Recordwyd y bennod yma ym mis Ionawr 2020. 

Gwrandewch ar y bennod lawn: 

 

Gwnaethpwyd Rhywbeth Creadigol? ar y cyd â’r gymuned greadigol ac ar ei chyfer.

Gwrandewch ar bennodau eraill 'Rhywbeth Creadigol?': 

#1. Sut Beth Yw Dylanwadu Digidol?

#2. A Yw Creadigrwydd yn Ffordd o Fyw?