Rhywbeth Creadigol? Pennod 1:1 - Sut Beth Yw Dylanwadu Digidol?

Profile picture for user Creative Cardiff

Postiwyd gan: Creative Cardiff

Dyddiad: 24 January 2020

I weithwyr creadigol a rheiny sydd â diddordeb yn y maes. Bydd 'Rhywbeth Creadigol?' yn dod â gweithwyr ac arbenigwyr o’r diwydiannau creadigol ynghyd i drafod y pynciau llosg sy’n effeithio arnyn nhw ar hyn o bryd, gan graffu ar yr ymchwil ddiweddaraf. Dyma bodlediad gan rwydwaith Caerdydd Creadigol ochr yn ochr â’r gymuned greadigol.

Ym mhennod gyntaf 'Rhywbeth Creadigol?' rydym yn holi'r cwestiwn - Sut beth yw dylanwadu digidol?

Ar ôl clywed sut mae Dr Francesca Sobande o Ysgol Newyddiaduraeth, y Cyfryngau a Diwylliant yn diffinio dylanwadwr digidol, mae'r crëwyr cynnwys digidol Megan Fflur a Llio Angharad yn rhannu eu barn a'u profiadau nhw. 

Mae gan Megan mwy na 13,000 o ddilynwyr ar ei chyfrif ffasiwn Instagram, mae'n lysgennad i Boohoo ac yn rhedeg siop ar-lein o'r enw Pethau sy'n gwerthu dillad a phethau cartref. 

Blogiwr bwyd yw Llio sy'n rhannu cynnwys ar-lein am y llefydd gorau i fwyta yng Nghaerdydd a thu hwnt. Mae ganddi fwy na 13,000 o ddilynwyr ar ei chyfrif Instagram, mae'n lysgennad i Sainsbury's a Beco ac mae'n arbenigo mewn marchnata digidol i Lywodraeth Cymru, gan weithio ar brosiectau iaith Gymraeg fel Dydd Miwsig Cymru. 

Mae Llio yn gweithio gyda nifer o frandiau ond mae'n credu'n gryf bod angen ystyried brand personol fel dylanwadwr. Meddai: "Mae'n rhaid ti fod yn driw i ti dy hun, bydden i byth yn gwneud stwff dannedd achos dim dyna be dwi'n gwneud. Dwi'n gwneud bwyd... mae rhaid i ti fod yn eithaf triw i beth ti'n gwneud a beth ti'n credu."

Mae Megan yn siarad am adael ei swydd 9 tan 5 a gwneud bywoliaeth fel dylanwadwr ffasiwn: "dwi'n credu os oeddech chi'n gwneud ffasiwn bum mlynedd yn ôl byddech chi'n cael eich talu, ond nawr mae cymaint o ferched yn hapus i wneud gwaith am ddim, dydyn nhw ddim am eich talu chi" 

Gwrandewch ar y bennod lawn: