Mae Elgan yn wneuthurwr theatr, perfformiwr ac ysgrifennwr o Bwllheli sy’n byw yng Nghaerdydd ac wedi sefydlu cwmni theatr dwyieithog o’r enw Cwmni Pluen Company. Mae wedi gweithio gyda nifer o gwmnïau theatr ledled Cymru ac yn gweithio fel Artist Cyswllt i Frân Wen. Fe sefydlodd Cwmni Pluen Company gyda dau ffrind bron i bum mlynedd yn ôl. Mae Pluen yn creu theatr gyfoes ac anghonfensiynol gan ddefnyddio'r Saesneg a'r Gymraeg drwyddi draw. Ar hyn o bryd mae ei ddrama lwyfan ei hun ‘Woof’, yn Theatr y Sherman o 31 Ionawr i 9 Chwefror. 

Gallwch chi ddweud wrthym ni beth rydych chi'n gwneud?

Dwi’n wneuthurwr theatr lawrydd o’r Gogledd, rŵan yn byw yng Nghaerdydd. Dwi'n cael hi’n anodd defnyddio un gair i ddisgrifio’r hyn dwi’n gwneud – dwi ddim yn linear. Dwi’n addasu i ba bynnag prosiect dwi’n gweithio arni ac yn aros i weld lle dwi’n ffitio. Dwi’n eitha’ agored i betha’ ac yn hapus i gyfarwyddo, perfformio a ‘sgwennu – dwi’n dilyn fy nhrwyn. Dwi hefyd yn rhedeg cwmni theatr efo fy ffrind Gethin Evans ac mae gennym ni Executive Producer o’r enw Olivia Harris. Felly tri ohonom ni sy’n rhedeg y cwmni a ‘da ni ‘di ffurfio ers rhyw pum blynedd.

Mae cydweithio’n rhan mor bwysig o fy ngwaith a’r broses o greu theatr er mwyn dod â phobl sydd â gwahanol sgilia’, cryfdera’ at eu gilydd sy’n barod i archwilio’r un cynnwys mewn gwahanol ffyrdd. Efo Pluen, ma’ gennym ni lwyth o ddiddordeb mewn dod â phobl mewn i'r broses greadigol. Efo 'Mags', ein cynhyrchiad dwyieithog diweddaraf, naethon ni gychwyn efo syniad oedd yn dod o ryw le eitha’ amwys. Oeddan ni efo diddordeb yn y thema o ofal a theulu o fewn gymdeithas gyfoes. Gaethon ni sgyrsia' hefo llwyth o famau dros baned, wedyn amrywiaeth o sefydliada’, wedyn naethon ni dorri o lawr i weithio hefo tri grŵp penodol – CAIN, sef dawnswyr sy’n 60 oed ac yn hŷn o’r Gogledd, DadsCan sy’n gweithio efo tadau ifanc ac yna pobl ifanc o’r sefydliad Traws*Newid Cymru. Tri grŵp hollol wahanol a nath hwnna fwydo mewn i’n proses ni hefo’r artistiaid proffesiynol. Roedd o’n bwysig i ni ein bod ni’n dod â phawb at eu gilydd i greu rhywbeth authentic a chyfoethog.

Dwi wedi bod yn llawrydd ers rhyw 5 i 6 mlynedd a’r her fwyaf yw rheoli amser. Swni’n deud bod hanner o'r pethau dwi’n creu i gwmnïoedd eraill a'r hanner arall dwi’n creu er mwyn fy hun. Felly, dwi mewn lle hynod ffodus. Mae Cyngor Celfyddydau Cymru yn gefnogol o fy ngwaith i a gwaith Cwmni Pluen. Mae gen i ryddid nid yn unig i reoli amser fy hun ond hefyd i greu gwaith fy hun. Sy’n hynod cŵl. Her arall o fod yn llawrydd yn y maes theatr yw ceisio am arian. Dwi’n cofio dod allan o’r brifysgol ac yn meddwl byddai cael modiwl 'apply for funding' yn gret, achos pan neshi adael odd’ rhaid fi weithio'r holl beth allan fy hun.

Pam ddewisoch chi i weithio yng Nghaerdydd?

Ddos i yma’n gyntaf i astudio ac odd’ gymaint o amrywiaeth, a dyna be sydd wedi 'nghadw i yma. Yr amrywiaeth o ddiwylliannau, pobl a sectora’ creadigol. Oherwydd bod y Gymraeg yma hefyd, dwi’n teimlo cyfrifoldeb i greu theatr Cymraeg a dwyieithog ym mhrifddinas Cymru. Neshi sylwi ar hynny yn fy nhrydedd flwyddyn – oni’m yn gweld gwaith lle mae’r ddwy iaith yn cyd-fodoli o fewn yr un peth. A dyna ydi bwriad Pluen. Erbyn hyn mae’n un o gwmnïau theatr ddwyieithog arweiniol yng Nghymru. Dwisho edrych ar sut ‘da ni wir yn bodoli yng Nghymru, a rhoi dehongliad gonest o hynny.

Beth sy’n eich ysbrydoli am weithio yma?

Yr amrywiaeth o bobl, a diwyllianna’ o dros y byd sy’n bodoli yma. A’r gefnogaeth sydd ar gael o lefydd fel Theatr y Sherman sydd wedi bod mor gefnogol i ymarfer fy ngwaith i. Fedra i ddim diolch digon i Rachel O’Riordan a Julia Barry am eu ffydd nhw yn comisiynu Woof. Mi oedd Woof yn rhan o gynllun datblygu ‘sgwennu newydd yn y Gymraeg o’r enw Brig, gafodd ei ddangos yn Eisteddfod y Fenni 2016. Ers hynna dwi ‘di gwneud ceisiadau i Gyngor y Celfyddydau diolch i gefnogaeth gan Theatr y Sherman.  Mae Theatr y Sherman wedi rhoi’r cyfle imi gael fy mentora yn artistig a chyfle i chwarae ac archwilio yn eu theatr hyfryd. Dwi’n teimlo bod y gefnogaeth yna yn y sector theatr yn fy ysbrydoli i. Hefyd, mae ‘na lwyth o bobl lawrydd bellach yn cychwyn cwmnïau eu hunain a chenhedlaeth o bobl ifanc yng Nghaerdydd yn lansio cwmnïau theatr eu hunain a chreu gwaith newydd – stwff heriol – a ma’ hynny’n ysbrydoledig a chyffrous. 

Ydych chi wedi gorfod goresgyn unrhyw heriau wrth weithio yng Nghaerdydd? 

Dw i heb wynebu lot o heria’ wrth weithio yng Nghaerdydd i fod yn onest, dwi’n cymryd unrhyw waith alla’ i gymryd, dwi’n taflu fy hun mewn i bethau. Os dwi’n gweld her dwi’n cario ‘mlaen i gnocio ar y drws tan bo’ rhywun yn ateb. Mae hybu dwyieithrwydd yn gallu bod yn anodd weithia’ – i gael cynulleidfaoedd mwy a sicrhau bo’ nhw’n deall does dim angen siarad Cymraeg i fwynhau’r cynhyrchiad. Mae ethos Pluen wedi helpu ni neud o’n haws os rhywbeth, er mwyn gwneud y gwaith yn fwy hygyrch achos y dwyieithrwydd, mae’n hyrwyddo’r iaith. Mae’n her ffeindio ffyrdd o gyflwyno’r gwaith ar adega' ond mae iaith yn ddyfais a ma’ uwchdeitlau’n grêt. Mae’n rhywbeth gall unrhyw un berchnogi. Wrth greu gwaith yn y theatr dwisho unrhyw un sydd ddim yn siarad Cymraeg allu perchnogi fo a dathlu fo. Mae’r Sherman newydd gyflwyno uwchdeitlau Saesneg efo'u cynyrchiadau Cymraeg nhw, sy’n brilliant. Mae’n dod â mwy o bobl a chynulleidfaoedd i weld a chlywed y Gymraeg – er mwyn ei ddathlu a’i fwynhau. 

Rhywbeth arall sy'n gallu bod yn her yw'r ffaith mod i, fel person o’r Gogledd, yn teimlo cyfrifoldeb i sicrhau gweithgaredd a datblygiad stwff yn y gogledd hefyd a sicrhau mwy o bresenoldeb creadigol yno. Mae Frân Wen yn y Gogledd, ac maen nhw’n neud lot o waith cyffrous ac arloesol efo plant a phobl ifanc. Dwi’n bias achos dwi’n dod o’r Gogledd a dwi’n credu bysa’ mwy o gyfnewid yn gallu digwydd rhwng y Gogledd a Chaerdydd. Dylen ni gyfnewid syniadau, gwaith a thalent.

Pa mor llwyddiannus ydych chi'n credu mai Caerdydd wedi bod wrth wneud ei hun yn ganolbwynt creadigol, yn enwedig yn eich maes chi o waith?

Mae Caerdydd bendant wedi tyfu o ran y sector theatr, o ran rhoi o ar y map yn rhyngwladol. Mae Theatr y Sherman wedi bod yn rhan mawr o ffynnu’r sector theatr, mae’n cael ei hadnabod rŵan fel theatr arweiniol yn y Deyrnas Unedig am sgwennwyr newydd a fe ennillodd wobr Regional Theatre of The Year gan The Stage – blwyddyn diwethaf. Sherman oedd y theatr Cymraeg cynta' i ennill y wobr yma. Dwi hefyd yn gweld lot mwy o bobl ifanc a sgwennwyr newydd ar y sîn a mae ‘na lot o awduron ifanc Cymraeg yn cael platfform i greu gwaith – a dyna fel y dylai o fod.

Beth ydych chi'n credu dylai Caerdydd Creadigol geisio cyflawni?

Dwi’n licio’r syniad o gael mwy o gyfleoedd i rwydweithio hefo sectorau eraill y gymuned greadigol yng Nghaerdydd. Dwi’n meddwl bod ‘na rhywbeth difyr ynglŷn â dod ffurfia’ celf wahanol at eu gilydd i weld be sy’n digwydd a sut da’ ni’n gallu gweithio efo’n gilydd – be sy’n cael ei greu. Mae mynd i arddangosfa wahanol i weld celf, mynd i gig, maen nhw gyd yn ysbrydoli fy ngwaith ac yn bwysig i greu profiad cynhwysol. Felly, hyd yn oed mwy o ddigwyddiada’ sy’n caniatáu arddullia’ gwahanol o gelfyddydau i ddod ynghyd a dysgu o'i gilydd.

Disgrifiwch eich hoff le i weithio yng Nghaerdydd.

Theatr y Sherman, mae rhan fwyaf o fy amser o ran creu a datblygu gwaith wedi bod yno. Un o fy hoff lefydd o ran perfformio yng Nghymru yw stiwdio’r Sherman. Yn y Sherman, mae’r awyrgylch yn saff a chynnes efo naws teuluol iawn ac os oes angen cefnogaeth am rywbeth, boed hynny’n ymwneud â marchnata, artistig, cyngor technegol mae gen i berthynas agos yma i fedru holi am y gefnogaeth yna. Er bo fi’n lawrydd, fama a Frân Wen yw’r llefydd mwyaf tebyg i weithle dwi ‘rioed di cael.

Gallwch chi ddewis un person creadigol yng Nghaerdydd ddylwn ni ddarganfod rhagor amdanynt?

Gethin Evans; sy’n rhedeg Cwmni Pluen Company efo fi. Dwi’n meddwl bod o’n brilliant. Wnaethon ni ‘astudio efo’n gilydd ar gwrs Theatr a Drama ym Mhrifysgol De Cymru. Ar ddiwedd y cwrs neshi gychwyn datblygu syniad ac oni isho cyfarwyddwr, felly neshi ofyn i Geth. Pob prosiect da ni’n neud mae o’n dod a'i brofiad  a dwi’n dod â profiada’ fy hun a ma’n gwybodaeth a’n profiada’ ni jest yn ehangu. ‘Da ni mewn lle cry’ a da ni’n gallu bod yn brutally honest gyda’n gilydd. Mae Gethin yn gyfarwyddwr crefftus iawn, ac wedi gweithio efo’r National Theatre yn Llundain blwyddyn dwytha’, ar brosiect enfawr yn gweithio efo Public Acts – prosiect mawr cymunedol efo cast mawr cymunedol. Y bwriad oedd dod ag artistiaid proffesiynol ac aelodau o’r gymuned ynghyd. Felly mae ganddo fo gyfoeth o brofiad, dwi’n parchu ei welediad artistig a’i ffordd o weithio.       

Beth sydd nesaf i chi? Pa brosiectau sydd gennych ar y gorwel? Pa syniadau newydd ydych chi'n datblygu?

Mae fy nrama llwyfan llawn cyntaf i o’r enw 'Woof', yn agor yn Theatr y Sherman wythnos yma. Mae o’n dilyn dau ddyn sydd mewn cariad yn trïo ffeindio trywydd bywyd ond dan lot o bwysau strwythurau cymdeithasol. Mae'n agor wythnos yma a mae’n hynod o gyffrous a terrifying ar yr un pryd. Dwi methu aros i weld yr ingredient olaf – sef y gynulleidfa a jest gweld be' ydy’r sgwrs bellach.

Mae gen i brosiectau cyffrous iawn efo Frân Wen – syniada’ newydd efo pobl newydd fel Manon Steffan Ros a Seiriol Davies. Dwi a Manon Steffan Ros wedi gweithio hefo’n gilydd ar sioe plant flwyddyn diwethaf, ma’ hi mor agored, hael efo’i hamser, a barod i wrando. Mae gwaith gan Pluen yn dod i fyny hefyd felly cadwch lygad. ‘Da ni yn y broses o ail-frandio a datblygu gwefan – diolch i arian gan Cyngor Celfyddydau Cymru. Felly ma’ ‘na bethau gwirioneddol gyffrous ar y gorwel. 

Bydd 'Woof' yn Theatr y Sherman o Ionawr 31 nes Chwefror 9.

Dilynnwch Cwmni Pluen Company ar gyfryngau cymdeithasol i wybod y diweddaraf am waith y cwmni theatr dwyieithog.

 

Share