Marchnadoedd Tymhorol y Gwneuthurwyr

Ar ôl blwyddyn heriol i wneuthurwyr, dylunwyr a chrefftwyr yng Nghaerdydd, mae’n bleser gennym rannu amrywiaeth o farchnadoedd a gynhelir ar-lein a wyneb yn wyneb dros yr ŵyl.

 

Profile picture for user Vicki Ball

Postiwyd gan: Vicki Ball

Dyddiad: 26 November 2020

Market till and items

Dyma grynodeb:

Wyneb yn wyneb

12 Tachwedd - 23 Rhagfyr: Marchnad Nadolig Caerdydd – profiad siopa amgen yng nghanol dinas Caerdydd lle gallwch brynu cynhyrchion gan y gwneuthurwyr eu hunain yn uniongyrchol.

Dydd Sadwrn 28 Tachwedd, 12 a 19 Rhagfyr: Marchnad gwneuthurwyr The Bone Yard

Bob dydd Sul ym mis Rhagfyr: King’s Yard, Marchnad Nadolig Pontcanna. Dyma gartref Artistiaid enwog Kings Road a chlwstwr o sefydliadau artisan a busnesau creadigol.

Indie Superstore – cyfres newydd o farchnadoedd awyr agored/o dan do sy’n ceisio cefnogi a hyrwyddo masnachwyr annibynnol lleol.

Maker’s Arcade Pop Up Shop - Siop dros dro yng Nghaerdydd sy’n dod â gwneuthurwyr, dylunwyr a chynhyrchwyr ynghyd. Mae pob un o’r rhain wedi’u gwahodd yn benodol am eu hansawdd a pha mor unigryw ydynt.

I’w chynnal yn 20 Arcêd Morgan.

Ar-lein

Dydd Gwener, 27 Tachwedd o 6pm – dydd Sul, 29 Tachwedd 6pm: Marchnad ddigidol Siop Miri. Cymuned o 16 o artistiaid, crefftwyr a busnesau bach o Gymru sy’n creu ystod o gynhyrchion cyfoes o safon i chi a’ch cartref.

Mae Marchnad Myfyrwyr Cymru yn rhoi’r cyfle i fyfyrwyr a graddedigion o bob sefydliad addysg bellach ac uwch yng Nghymru arddangos eu cynhyrchion/gwasanaethau a manteisio ar y farchnad gyfredol o gwsmeriaid ymhlith staff a myfyrwyr. 

Cardiff Indie Collective – marchnad leol drwy gydol y flwyddyn. Cyfeirlyfr ar-lein o fusnesau annibynnol lleol. Y ffordd hawdd o siopa’n lleol.

Mwynhewch y siopa!

“Rydym yn eich cynghori i ddarllen y wybodaeth ddiweddaraf am farchnadoedd ‘wyneb yn wyneb’ i fod yn ymwybodol o unrhyw ganllawiau neu newidiadau sy’n ymwneud â COVID-19. 

-------

 

Os hoffech ychwanegu at ein rhestr, cysylltwch â ni drwy ebostio creativecardiff@caerdydd.ac.uk

Cyfeiriadur rhwydwaith

Ymunwch â'r rhwydwaith

Creu proffil cyfeiriadur i rannu eich gwaith ac i gysylltu a chydweithio â phobl greadigol eraill.

Jess Networking at a Creative Cardiff event