Mae Theatr Nova yn edrych i weithio gyda Phobl Dduon a Phobl Groenliw nad ydynt yn ddu sydd â diddordeb mewn creu theatr.
Cwmni theatr amlddisgyblaeth o Gymru yw Theatr Nova sydd wedi cael llwyddiant mewn theatr gorfforol a dyfeisiedig, ysgrifennu newydd a drama sain.
Yn 2020, roedd Theatr Nova yn falch o dderbyn grant adfer gan Gyngor Celfyddydau Cymru i sefydlogi a chryfhau’r cwmni. Rhan o strategaeth ymadfer Nova yw rhannu profiadau a dysgu gydag artistiaid a chynhyrchwyr duon a chroenliw nad ydynt yn ddu ar lawr gwlad / ar ddechrau eu gyrfaoedd sydd efallai heb gael y cyfleoedd rydyn ni wedi’u cael fel cwmni hollol wyn. Yn ei dro, gofynnwn fod ein prosesau a syniadau’n cael eu trafod a’u herio gynnoch chi.
Datblygir cynnwys y rhaglen hon mewn ymgynghoriad â’r artistiaid llwyddiannus ond fel syniad gallai gynnwys y canlynol:
- Cyngor ar feithrin profiad fel awdur, cyfarwyddwr, coreograffydd a chynhyrchydd
- Sut i redeg cwmni theatr bach
- Sut i gael hyd i gyfleoedd a chyllid
- Sut i greu theatr ddyfeisiedig
- Sut i strwythuro ac ysgrifennu drama
MEINI PRAWF
Croesawn geisiadau gan bobl o dras Affricanaidd a Charibïaidd a phobl o dras dwyrain Asiaidd a de-ddwyrain Asiaidd sy’n byw yng Nghymru ac sydd â diddordeb mewn ysgrifennu/creu, cyfarwyddo/coreograffi a chynhyrchu.
Does dim angen profiad.
FFI
£1000.00 y pen. Mae tair swydd ar gael. Mae’r gwahanol elfennau o’r ffi i’w trafod a’u cadarnhau.
Amserlen
Bydd y lleoliadau’n digwydd rhwng mis Ionawr 2021 a 31 Mawrth 2021. Mae’r union ddyddiadau i’w trafod a’u cadarnhau.
Y broses gwneud cais
I wneud cais, anfonwch lythyr esboniadol/datganiad o ddiddordeb (heb fod yn hirach na 2 dudalen) i novatheatreprojects@gmail.com erbyn 10 Ionawr sy’n cynnwys y canlynol:
- Pa rolau sydd o ddiddordeb i chi yn y theatr? Neu ba rolau yr hoffech chi gael gwybod mwy amdanynt?
- Sut gallai’r cyfle yma fod o fudd i chi ar hyn o bryd.
- Beth rydych chi’n hoffi’i greu? Pa waith rydych wedi’i weld sy’n apelio atoch chi? Dywedwch wrthon ni am unrhyw beth sy’n eich ysbrydoli.
- Sut clywsoch chi am y cyfle hwn.