Llunio maniffesto ar gyfer y Celfyddydau a Diwylliant yng Nghymru

02/12/2020 - 08:30
Ar-lein
Profile picture for user Vicki Ball

Postiwyd gan: Vicki Ball

Audience and panel in Reardon Smith theatre

Pa fath ar gymdeithas yr ydym yn dymuno byw ynddi, a sut allwn ni droi hynny’n realiti?

Mae Caerdydd Greadigol a Beth Nesaf? Cymru yn eich gwahodd i ymuno â ni i gynorthwyo yn y dasg o lunio maniffesto ar gyfer y Celfyddydau a Diwylliant yng Nghymru i’w gyflwyno i’r pleidiau gwleidyddol gyda golwg ar etholiadau 2021 i’r Senedd.

Dydd Mercher 2 Rhagfyr

Naill ai  8.30 – 9.30 (60 mun)

Neu 

16.00 – 17.30 (90 mun)

Bydd sesiwn y bore yn cael ei hail-adrodd yn y prynhawn, felly byddai ond angen i chi fynychu un ohonynt.

Nid oes angen cofrestru ymlaen llaw. Ymunwch â’r naill sesiwn neu’r llall trwy ddilyn y ddolen hon:

https://eisteddfod.zoom.us/j/83413535015

Bydd cyfieithu ar y pryd o’r Gymraeg i’r Saesneg ar gael yn y ddwy sesiwn.

I roi gwybod inni am unrhyw ofynion arbennig o ran mynediad, os gwelwch yn dda, cysylltwch â: creativecardiff@cardiff.ac.uk