Hyfforddai Dyfodol Amgueddfeydd

Cyflog
£14,650 (Esemptiad Treth)
Location
Caerdydd
Oriau
Full time
Closing date
06.11.2020

Postiwyd gan: naomisb

Dyddiad: 9 October 2020

Agorodd Amgueddfa Caerdydd (Amgueddfa Stori Caerdydd gynt) yn 2011. Dyma'r amgueddfa gyntaf sy'n adrodd hanes y ddinas. Mae ein casgliadau'n cynnwys popeth o weithiau celf i debotiau, ac mae gan bob un stori i'w hadrodd am y ddinas a'r bobl sydd wedi byw, gweithio a chwarae yma dros genedlaethau.

Bydd hyfforddai Dyfodol Amgueddfeydd yn rhan allweddol o'n tîm bach, a bydd yn cymryd rhan ym mhob agwedd ar ein gwaith. Rydym yn arbennig o awyddus i'r hyfforddai helpu i gydgysylltu a chreu cynnwys digidol llawn gwybodaeth, diddorol a hygyrch ar gyfer orielau'r amgueddfa a'i ddefnyddio arlein. Bydd yr ymgeisydd a ddewisir yn cael ei hyfforddi'n llawn ar ddogfennaeth amgueddfeydd o gasgliadau, digideiddio (gan gynnwys digideiddio drwy ffotograffiaeth o wrthrychau) a sut rydym yn defnyddio gwrthrychau i adrodd hanes y ddinas a'i phobl. Mae gennym ychydig o brosiectau yr hoffem i'n hyfforddai weithio gyda ni i'w cyflawni. Un ohonynt yw sicrhau bod ein casgliad yn hygyrch ar-lein drwy wefan newydd ac un arall i weithio gyda chymunedau amrywiol ledled y ddinas i sicrhau bod ein casgliadau, ein harddangosfeydd a'n gweithgareddau yn gwneud mwy i'w cynrychioli nhw a'u straeon.

Bydd hyfforddeion yn cwblhau diploma Lefel 3 achrededig mewn Treftadaeth Ddiwylliannol ac yn ennill hyfforddiant a phrofiad sgiliau mewn gwaith i ychwanegu at eu CV a hyrwyddo eu cyfleoedd gyrfa. Am y rhesymau hyn rydym yn annog pobl ifanc 18-24 oed nad ydynt wedi cwblhau gradd israddedig i wneud cais. Nid yw ymgeiswyr sydd â dros 6 mis o brofiad cyflogedig neu ddi-dâl o weithio mewn amgueddfa a/neu gymhwyster ôl-raddedig mewn maes perthnasol yn gymwys i wneud cais.