Cyfarwyddiadur Hybiau

Yn ystod y degawd diwethaf, mae canolfannau creadigol a lleoedd ar gyfer cydweithio wedi datblygu i fod yn lleoedd hanfodol o ran y modd y mae pobl greadigol yn gweithio ac o ganlyniad, i dwf a datblygiad yr economi greadigol ar draws y byd.

Ym Mhrifysgol Caerdydd – drwy gydol y ddwy flynedd ddiwethaf yn enwedig – mae nifer o ganolfannau creadigol wedi’u sefydlu ac mae ganddynt oll rywbeth gwahanol i’w gynnig. Mae'r rhain yn lleoedd lle mae pobl greadigol, entrepreneuriaid ac arloeswyr digidol – gweithwyr llawrydd neu weithwyr mewn cwmnïau bach – wedi cael cartref i weithio.

Er mwyn deall yr amgylchedd gydweithio hon, rydym wedi cynnal nifer o ddigwyddiadau ymgynghori ac archwiliadol, gan gynnwys:

O ganlyniad i'r prosiect Rhwydweithio Canolfannau Creadigol, gwnaethom sefydlu grŵp pobl sy’n cynhyrchu, cyfarwyddo neu’n cefnogi mannau ar gyfer cydweithio a chanolfannau creadigol ym Ninas-ranbarth Caerdydd, o’r enw y Gydweithfa Greadigol.

Mae potensial a gallu sylweddol i aelodau’r canolfannau hyn gydweithio a rhannu gwybodaeth. Ar hyn o bryd, mae’r grŵp hwn yn cwrdd bob deufis mewn gwahanol ganolfannau. Maent yn rhannu gwybodaeth ac arferion da, ac yn gwneud cynlluniau ar gyfer cydweithio a chynyddu gweithgarwch.

Maen nhw'n agored i gynnwys canolfannau creadigol eraill. Y cyfan sy’n rhaid i chi ei wneud yw cysylltu â ni yn y lle cyntaf. Dewch i wybod mwy am aelodau’r Gydweithfa Greadigol isod.

Cyfeiriadur rhwydwaith

Ymunwch â'r rhwydwaith

Creu proffil cyfeiriadur i rannu eich gwaith ac i gysylltu a chydweithio â phobl greadigol eraill.

Jess Networking at a Creative Cardiff event