Gweinyddwr Cymorth YANC

Cyflog
£1,200 (£120 y dydd)
Location
Hyblig
Oriau
Part time
Closing date
30.11.2020

Postiwyd gan: Francesca Pickard

Dyddiad: 16 November 2020

Gweinyddwr Cymorth YANC

Rhan Amser:           10 diwrnod dros gyfnod a 12 wythnos

Lleoliad:                    Hyblig

Tâl:                           £1,200 (£120 y dydd)

Tymor:                      3 mis tymor penodol (Ionawr 1af hyd Fawrth 31ain 2021)

Gwybodaeth Cefndir

Mae Rhwydwaith Celfyddydau Ieuenctid Cymru yn rwydwaith cenedlaethol sy'n dod â gweithwyr celfyddydau ieuenctid, artistiaid sy'n dod i'r amlwg, myfyrwyr a'r cwmnïau celfyddydau allweddol yng Nghymru sy'n gweithio gyda phobl ifanc ynghyd. Dechreuodd YANC gyda menter yn 2011 a daeth yn rhwydwaith annibynnol a chyfansoddedig llawn yn 2015 pan gynhaliwyd ein Casgliad cenedlaethol cyntaf. Mae dros 400 o ymarferwyr a chwmnïau wedi ymgysylltu â Rhwydwaith Celfyddydau Ieuenctid Cymru ac mae Cyngor Celfyddydau Cymru wedi cefnogi YANC o’r cychwyn cyntaf.

Gyda grŵp llywio cynrychioliadol ledled Cymru rydym yn eirioli dros y celfyddydau ieuenctid ac yn datblygu strategaeth hirdymor ar gyfer YANC a'r Celfyddydau Ieuenctid yng Nghymru. Rydym yn cynnal Casgliad bob dwy flynedd ac yn gwahodd artistiaid ysbrydoledig, yn rhannu arfer gorau gyda'n gilydd, yn cynnal gweithdai a dosbarthiadau meistr. Mae ymarferwyr yn cynnal digwyddiadau rhanbarthol ledled Cymru gan ddewis ymarferwyr perthnasol ac arloesol i weithio ochr yn ochr ag aelodau a chefnogi eu hymarfer.

Am dair blynedd buom yn cefnogi Gwyl Grai, Gŵyl Genedlaethol Celfyddydau Ieuenctid ar gyfer a chyda phobl ifanc. Rydym yn ymgysylltu â phartneriaethau strategol, er enghraifft, Ieuenctid Cymru, Prifysgol Metropolitan Caerdydd, Coleg Celfyddydau Abertawe, Celfyddydau Gwirfoddol Cymru a'r Bwrdd Cyfiawnder Ieuenctid. Rydym wedi gweithio gyda Company 3, Circus Works, Cardboard Citizens, FIO, Young Identity, Mess up the Mess Theatre Company, Theatr Ieuenctid Narberth, Frân Wen, Five Stories High, Sparc, Canolfan Mileniwm Cymru, OCC, Jukebox Collective, Circus Eruption ac Afon Dance ymysg eraill, gan greu cyfleoedd newydd cyffrous i wella ein gwaith gyda phobl ifanc. Mae genom cylchlythyr chwarterol sydd yn arddangos Gwaith ardderchog y sector, rhannu digwyddiadau a chyfleoedd i rwydweithio.

Nod cyffredinol y rôl

I ddarparu cymorth gweinyddol i’r grŵp lliwio ac aelodau YANC i alluogi digwyddiadau effeithio, gan gynnwys hyrwyddo, trwy’r rhwydwaith YANC ac i’r cyhoedd.

Prif Ddyletswyddau a Chyfrifoldebau

Gan weithio gyda’r grŵp lliwio fyddwch yn:

-                 Pwynt cysywllt gyntaf am ymholiadau e-bost, gan gynnig cymorth a chyngor os bosib, ac fel arall ailgyfeirio i’r person addas.

-                 Darparu cymorth gweinyddol a logistaidd i ddigwyddiadau YANC;

-                 Rheoli logisteg digwyddiadau, gan gynnwys cofrestru cyfranogwr;

-                 Diweddaru cyfrifau cyfryngau cymdeithasol YANC yn ôl yr angen;

-                 Cadw cofnodai ariannol yn gyfredol gyda dull gweithredu'r cwmni, gan gynnwys cyflenwi anfonebau, brosesu taliadau a monitor gwariant cyllideb;

-                 Ymgymryd ag unrhyw ddyletswyddau eraill yr ystyrir eu bod yn berthnasol.

Gwybodaeth, Sgiliau a Phrofiad

-                 Gallu i weithio yn annibynnol, gan flaenoriaethu gwaith i gyrraedd a therfynau amser;

-                 Trefnus iawn;

-                 Sgiliau gweinyddol a Thechnoleg Gwybodaeth dda, gan gynnwys Microsoft Word ac Excel, Mailchimp, Dropbox;

-                 Gallu i ddiweddaru cyfrifau cyfryngau cymdeithasol;

-                 Gallu I gyfathrebu gyda phobl ar bob lefel, gan fod yn broffesiynol a cwrtais pob tro;

-                 Dealltwriaeth o’r pwysigrwydd o gadw cofnodai ariannol cywir;

-                 Hyrwyddwr a chefnogwr o Gelfyddydau Ieuenctid yng Nghymru.

Syt i Wneud Cais

Anfonwch lythyr eglurhaol ac eich CV i gefnogi’ch cais ac i egluro pam rydych yn ymgeisio am y swydd hon, gan gynnwys manylion o ddau berson fydd yn barod i ddarparu geirda ar eich rhan. Noddwch na fyddwn yn cysylltu gyda’r bobl yma cyn eith cyfweliad.

Anfonwch eich cais gan e-bostio YANCinfo@gmail.com cyn 5 o’r gloch ar Ddydd Llun 30ain o Dachwedd 2020.

Mi fydd cyfweliadau yn cael ei chynnal ar Ddydd Llun 14eg o Ragfyr 2020.

Mae YANC yn cwmni cynhwysol sydd yn croesawu ymceisiau gen phob grwp heb gynrychiolaeth ddigonol. Mae 'na groeso i chi gyflwyno eich cais mewn Cymraeg neu’n Saesneg.