Mae S4C yn lansio gwasanaeth newyddion digidol fydd yn dod a’r newyddion diweddaraf i gynulleidfa Gymraeg o amrywiol ffynonellau.
Dyma gyfle unigryw i arwain gwasanaeth arloesol fydd yn siapio hinsawdd newyddiadurol Cymru i’r dyfodol. Yn arweinydd wrth reddf byddwch yn ysgogi tîm o newyddiadurwyr i sefydlu, cynnal a datblygu’r gwasanaeth.
Rydym yn chwilio am unigolyn sydd â syniadau creadigol a dyfeisgar am sut i ddatblygu gwasanaeth digidol o’r newydd a denu dilyniant.
Bydd gennych brofiad golygyddol a dealltwriaeth o’r gyfraith yn ymwneud â’r wasg a’r cyfryngau, yn ogystal â’r gallu i adeiladu perthnasau positif gyda phobl a sefydliadau er mwyn datblygu a chynnal partneriaethau.
Mae sgiliau ieithyddol cryf yn bwysig i’r rôl i allu sicrhau safon a chywirdeb, yn ogystal â gosod tôn ac arddull priodol ar gyfer y gwasanaeth.
Bydd gennych drwyn am stori a’r gallu i fod yn greadigol gyda’r cynnwys gan gynhyrchu cynnwys o safon sy’n dal y llygad ac yn creu sŵn.
Byddwch yn arddel gwerthoedd cynhwysol a byddwch yn frwd dros sicrhau bod amrywiaeth o bob math yn cael ei adlewyrchu gan y gwasanaeth.
Os oes gennych chi'r sgiliau a'r profiad i helpu ni i adeiladu gwasanaeth newydd byddem yn hoffi clywed gennych.
Manylion eraill
Lleoliad: Lleoliad arferol y swydd yw Canolfan S4C Yr Egin, ac mae S4C yn cynnig trefniadau gweithio’n hyblyg.
Oherwydd coronafeirws mae S4C wedi lleihau mynediad i'w swyddfeydd ar gyfer staff sydd ddim ynghlwm a darlledu er mwyn sicrhau diogelwch a lles unigolion ac i ddiogelu darlledu. Mae'n bosibl felly y bydd gofyn i chi weithio o bell wrth ymuno â'r sefydliad os yw'r cyfyngiadau hyn yn dal ar waith.
Cyflog: Cystadleuol
Cytundeb: 24 mis
Oriau gwaith: 35.75 yr wythnos. Oherwydd natur y swydd disgwylir hyblygrwydd, gan gynnwys gweithio tu allan i oriau swyddfa, ar rai penwythnosau a gwyliau banc.
Cyfnod prawf: 6 mis
Gwyliau: Yn ychwanegol i'r gwyliau banc statudol, bydd gennych hawl i 26 diwrnod o wyliau
Pensiwn: Os byddwch yn ymuno â’r Cynllun Pensiwn Personol Grŵp bydd S4C yn cyfrannu 10% o’ch cyflog sylfaenol i’r Cynllun a disgwylir i chi gyfrannu 5%
Ceisiadau
Dylid cyflwyno ceisiadau erbyn 17.00 prynhawn dydd Iau 17 Medi 2020 i adnoddau.dynol@s4c.cymru neu Adnoddau Dynol, S4C, Canolfan S4C Yr Egin, Caerfyrddin SA31 3EG. Ni dderbynnir CV.
Gellir cyflwyno ceisiadau yn y Gymraeg. Ni fydd unrhyw gais a gyflwynir yn y Gymraeg yn cael ei drin yn llai ffafriol na chais a gyflwynir yn y Saesneg