Get A 'Proper' Job pennod #6 - Mynediad: y diwydiannau sgrin ac amrywiaeth economaidd-gymdeithasol

Profile picture for user Creative Cardiff

Postiwyd gan: Creative Cardiff

Dyddiad: 6 May 2020

I weithwyr creadigol sy’n peoni am y materion pwysig, mae Get a ‘Proper’ Job yn bodlediad sy’n trafod ac yn arddangos uchafbwyntiau ac isafbwyntiau gweithio mewn swydd neu sefydliad creadigol. Rydym yn dod ag arbenigwyr y diwydiant ynghyd i rannu gwybodaeth newydd.

Yn mhennod chwech a’r olaf o gyfres gyntaf Get a 'Proper' Job, mae gennym bennod ychydig yn hirach sy’n canolbwyntio ar rwystrau cymdeithasol-economaidd o ran cael mynediad at y diwydiant ffilm a theledu.

Mae'r bennod hon yn cynnwys:

  • Faye Hannah, ymchwilydd academaidd sy'n gwneud ei PhD ym Mhrifysgol De Cymru, yn canolbwyntio ar Ddiwydiannau Sgrîn Creadigol yng Nghymru: polisi, gweithlu a mynediad.  Hi yw Cyfarwyddwr Our Colab, yn gweithio ar draws y sector sgiliau, polisi a hyfforddiant ar y sgrîn, gan gynnwys rhaglen Troed yn y Drws Ffilm Cymru. Mae Troed yn y Drws ar gyfer bobl nad ydynt mewn gwaith, addysg na hyfforddiant sydd â sgiliau trosglwyddadwy ac sy'n awyddus i ddatblygu gyrfa yn y diwydiant ffilm.
  • Mae Norman Porter yn Gynorthwy-ydd Adran Gelfyddydau. Roedd yn rhan o'r peilot Troed yn y Drws yn 2017, wnaeth arwain ato'n gweithio yn yr adran gelf ar set adeilad a phropiau'r ddrama Apostle ar Netflix, cyn symud ymlaen i fod yn rhan o’r criw ffilmio ar gyfer Denmark and Eternal Beauty. 
  • Mae Sian Harris yn rhan o'r tîm comisiynu yn adran rhaglennu ffeithiol BBC Cymru. Cyn y rôl hon, roedd Sian yn gweithio yn datblygu teledu ffeithiol a chynhyrchu teledu (ffeithiol).

Dywedodd Norman: "Roeddwn i'n gwybod fy mod am weithio gyda fy nwylo, yn gwybod fy mod am fod yn rhan o'r diwydiant anhygoel hwn ond doedd gen i ddim syniad beth i'w wneud ar ôl hynny. Mae hynny'n rhwystr, yn enwedig gyda chefndir dosbarth gwaith. Doeddwn i ddim yn nabod neb yn y diwydiant ac ers hynny dwi wedi dysgu ei bod yn anodd iawn dechrau os nad ydych chi'n nabod rhywun yn y swydd honno'n barod." 

Dywedodd Faye: "Does dim un llwybr penodol ac mae'n amwys iawn o ran gyrfa felly mae'n anodd i bobl weld sut y gallan nhw fod yn rhan o hynny. Sut ydyn ni'n helpu pobl i wireddu'r dyheadau hynny a gweld gwerth ynddyn nhw eu hunain? Gall fod yn ddiwydiant eithaf dosbarth canol a gall ymddangos yn amhosib ei gyrraedd - sut ydyn ni'n dod o hyd i'r bobl hynny i gywiro'r cydbwysedd?" 

Wrth sôn am gynrychiolaeth, dywedodd Sian: "Yn fy swydd i, mae'n ymwneud â phortreadu pobl Cymru gyda straeon fydd o ddiddordeb ac yn bwysig yma yng Nghymru a thu hwnt.

"Dim ond un math o stori y gallwch chi ei dweud os mai dim ond un math o berson sy'n creu teledu.

"Allwn ni ddim adrodd straeon pobl Cymru'n ddilys os nad oes gennym ni gymysgedd da o bobl o wahanol gefndiroedd yn adrodd y straeon hynny - mae eu gwybodaeth a'u profiad bywyd yn hanfodol bwysig." 

Recordiwyd y bennod hon ym mis Ionawr 2020. 

Gwrandewch ar y bennod lawn:

Gallwch ddod o hyd i ddolenni at y cynlluniau, sefydliadau ac adroddiadau a grybwyllir yn y rhifyn isod: 

Gwnaethpwyd Get a ‘Proper’ Job gan rwydwaith ddinesig Caerdydd Creadigol ar y cyd â’r gymuned greadigol ac ar ei chyfer.

Gwrando ar rifynnau eraill o Get A 'Proper' Job:

#1: The Rise of the Influencers

#2. No Funny Business

#3. Creativity and Wellbeing 

#4. Women in Creative Business

#5. Musicians and Community