Gefnogaeth marchnata llawrydd

Cyflog
£200 y diwrnod
Location
Cymru
Oriau
Fixed term
Closing date
20.01.2021
Profile picture for user Creative Cardiff

Postiwyd gan: Creative Cardiff

Dyddiad: 13 January 2021

Mudiad What Next? Cymru yn chwilio am gefnogaeth marchnata llawrydd

Sefydlwyd What Next? Caerdydd yn 2014 fel adain leol o’r mudiad Prydeinig ehangach. Yn 2020 newidiwyd yr enw i What Next? Cymru, gan weithredu dros Gymru gyfan ac arlein.

Derbyniwyd nawdd o Gronfa Cydrannu Cyngor Celfyddydau Cymru er mwyn cefnogi ein gwaith marchnata, cyfathrebu a chyrraedd cynulleidfaoedd yn ystod gwanwyn 2021.

Rydym yn chwilio am weithiwr llawrydd proffesiynol ym maes marchnata ar gyfer cytundeb oddeutu 3 diwrnod ar raddfa o £200 y diwrnod, gyda’r gwaith i’w gwblhau erbyn dechrau/canol Mawrth 2021.

Bydd y cytundeb yn gofyn cyflawni’r tasgau canlynol:

  • Creu adolygiad byr o’r sefyllfa farchnata gyfredol, gan edrych ar ein gweithgareddau a’n sianeli, gan gynnwys mynychu’r cyfarfod wythnosol.
  • Addasu’r wefan, edrych ar eiriad ebyst, ac adolygu gwefannau cymdeithasol ayyb yn dilyn canfyddiadau’r adolygiad
  • Ymchwilio i gyrraedd cynulleidfa/rhanddeiliaid, gan gynnwys arbrofi â dulliau newydd i ymgysylltu â rhwydweithiau tu hwnt i’n rhai arferol er mwyn targedu cynulleidfaoedd newydd.

I ymgeisio am y swydd hon, anfonwch CV a datganiad o ddiddordeb (1 x A4) at whatnextcardiff@gmail.com (12 hanner dydd 20/01/2121)

Cyfeiriadur rhwydwaith

Ymunwch â'r rhwydwaith

Creu proffil cyfeiriadur i rannu eich gwaith ac i gysylltu a chydweithio â phobl greadigol eraill.

Jess Networking at a Creative Cardiff event