Galwad agored cyfle hyfforddi/metora â thâl i weithwyr llawrydd

Cyflog
Telir ffi diwrnod o £250 i bob un o'r 16 gweithiwr llawrydd am wyth awr o'u hamser.
Location
Bydd yr amser yn cael ei rannu'n slotiau o awr neu ddwy awr ac yn cael ei gynnal o bell gan ddefnyddio Zoom rhwng 3 Tachwedd - 8
Oriau
Fixed term
Closing date
26.10.2020
Profile picture for user Yvonne Murphy

Postiwyd gan: Yvonne Murphy

Dyddiad: 30 September 2020

Rhaglen Beilot Meddwl o Bell a Dysgu a Datblygu ar gyfer Gweithwyr Llawrydd yn y Sector Perfformio Byw yng Nghymru

Beth yw e?

Mae'r rhaglen beilot hon ar gyfer gweithwyr llawrydd sy'n gweithio yn y sector perfformio byw yng Nghymru sy'n bwriadu parhau, neu ddechrau, creu a chynhyrchu eu gwaith eu hunain yn y dyfodol. Mae'n gyfle â thâl i ddatblygu'ch dysgu a'ch arbenigedd, i gael eich mentora ac i weithwyr llawrydd gyfathrebu gyda sefydliadau â chyllid craidd. Ymhlith pynciau'r sesiynau mae Codi Arian, Cyllidebu, Cynhyrchu, Teithio, Strwythurau Busnes a Rheoli Busnes, Rhwydweithio, Dylanwadu, Cydweithio, Partneriaethau, Mynediad, Cydraddoldeb a Chynhwysiant a Brandio, Marchnata a mwy.

Mae'r rhaglen hon ar gyfer pobl sy'n credu y byddent yn elwa o rannu gwybodaeth a sgiliau AC sy'n awyddus i ymuno ag eraill i feddwl am sut y gallai / y dylai gweithwyr llawrydd fod yn rhan o'r meddwl, y rhaglennu a'r strategaethu o fewn sefydliadau a'r sector ehangach wrth symud ymlaen. Bydd pob gweithiwr llawrydd sy'n cymryd rhan yn cael ei dalu i fuddsoddi'r amser yn ei ddysgu, ei ddatblygiad, ei uwchsgilio a'i feddwl ei hun. Rydym yn croesawu ceisiadau gan bobl sydd newydd raddio i'r rhai sydd wedi cael gyrfa hir yn y sector celfyddydau a diwylliannol.

Rydym ni eisiau clywed gan weithwyr llawrydd sy'n chwilio am gyfleoedd dysgu a datblygu i symud ymlaen ar eu taith hunan-gynhyrchu / creu ac sydd eisiau bod yn rhan o feddwl ehangach y sector lle y mae diffyg mynediad at rannu gwybodaeth, sgiliau a phrofiad yn y sector wedi bod / yn rhwystr.

Beth yw’r ffi?

Mae gan y peilot hwn gyllid ar gyfer 16 o weithwyr llawrydd yn y lle cyntaf. Telir ffi diwrnod o £250 i bob un o'r 16 gweithiwr llawrydd am wyth awr o'u hamser. Pryd mae e? Bydd yr amser yn cael ei rannu'n slotiau o awr neu ddwy awr ac yn cael ei gynnal o bell gan ddefnyddio Zoom rhwng 3 Tachwedd - 8 Rhagfyr 2020.

Pa mor hygyrch fydd hi?

Mae cyllideb mynediad ar gael i weithwyr llawrydd anabl / byddar. Bydd gwasanaeth cyfieithu ar y pryd o'r Gymraeg i'r Saesneg ar gael. Cysylltwch â ni os ydych am drafod eich gofynion mynediad i'r anabl / byddar

Sut bydd pobl yn cael eu dewis?

Mae'r rhaglen hon wedi'i thargedu'n benodol at weithwyr llawrydd sy'n gallu dangos eu bod yn cwrdd â'r HOLL feini prawf canlynol: 

  • Rydych chi'n gweithio yn y sector perfformio byw yng Nghymru
  • Eich bod wedi cael a /neu fod gennych gynlluniau i greu a chynhyrchu eich gwaith eich hun a / neu eraill yn y sector perfformio byw yng Nghymru
  • Gallwch egluro sut y gallai'r rhaglen hon gefnogi a galluogi'r cynlluniau hynny
  • Rydych wedi nodi bylchau mewn gwybodaeth a sgiliau y gallai'r rhaglen hon helpu i fynd i'r afael â hwy
  • Rydych wedi cwrdd â rhwystrau o'r blaen wrth fuddsoddi yn eich dysgu, datblygu, uwchsgilio a meddwl eich hun.
  • Mae gennych awydd cryf i ymuno ag eraill i feddwl am sut y gallai / y dylai gweithwyr llawrydd fod yn rhan o feddwl, rhaglennu a strategaethu o fewn sefydliadau a'r sector ehangach wrth symud ymlaen.
  • Rydych chi'n byw ac yn gweithio mewn unrhyw ran o Gymru
  • Rydych ar gael ar gyfer yr holl ddyddiadau penodedig isod
  • Rydych wedi'ch cofrestru yn hunangyflogedig

Mae gennym ddiddordeb arbennig mewn derbyn ceisiadau gan weithwyr llawrydd

  • oedd yn aflwyddiannus neu nad oeddent yn teimlo y gallant wneud cais am Gyllid Sefydlogi Unigol Cyngor Celfyddydau Cymru
  • sy'n nodi bod ganddynt nodweddion gwarchodedig / sydd o grŵp(iau) sydd heb gynrychiolaeth ddigonol ar hyn o bryd yn y sector. Mae hyn yn cynnwys gweithwyr llawrydd sy'n adnabod eu hunain fel pobl dduon a phobl groenliw nad ydynt yn ddu, pobl anabl, pobl o'r dosbarth gweithiol a menywod.

Mae'r rhaglen hon wedi'i chreu'n benodol ar gyfer gweithwyr llawrydd a gweithwyr llawrydd sy'n cynhyrchu eu hunain sy'n rhedeg sefydliadau bach a ariennir gan brosiectau yn y sector perfformio byw. Efallai eich bod yn gyfarwyddwr, dylunydd, perfformiwr, technegydd, rheolwr llwyfan, cynhyrchydd, cerddor neu'r rhain i gyd neu fwy. Efallai eich bod eisoes wedi gwneud eich gwaith eich hun. Efallai eich bod ar fin dechrau. Efallai eich bod wedi bod yn rhedeg cwmni a ariennir gan brosiect ers blynyddoedd neu'n dod at ei gilydd gyda gweithwyr llawrydd eraill i greu sefydliad cyfunol.

D.S. Nid rhaglen o'r brig i lawr yw hon. Un o nodweddion allweddol y rhaglen yw dysgu ar y cyd a deialog ddwy ffordd agored rhwng y cyfranogwyr llawrydd a'r gweithwyr proffesiynol cyflogedig hynny sy'n rhannu eu gwybodaeth, eu sgiliau a'u profiad. Mae lle hefyd i'r rhaglen ymateb a chael ei llunio i ddiwallu anghenion y cyfranogwyr llawrydd.

CYNNWYS Y RHAGLEN

Sesiwn groeso a chyflwyno (1 awr)

Dewis o un bloc pedair awr. Mae'r holl gyfranogwyr yn cael dewis pedwar modiwl o amrywiaeth o bynciau. Gweler isod.

Sesiwn meddwl dwys dwy awr yn gweithio gyda'i gilydd i weld sut y gallai / y dylai gweithwyr llawrydd gyfrannu at feddylfryd, rhaglennu a strategaethu o fewn sefydliadau a'r sector ehangach wrth symud ymlaen.

Mentora (1 awr). Bydd pob cyfranogwr llawrydd yn cael ei baru â mentor o'i ddewis o'r rhestr o bartneriaid a bydd yn cytuno ar amser sy'n addas i'r ddwy ochr ar gyfer sesiwn fentora awr cyn 18 Rhagfyr.

DEWISIADAU BLOCIAU AWR Popeth rwy'n ei wybod / rwy'n dymuno i rywun ddweud wrthyf am....

POPETH AM ARIAN – Ble mae e a sut rydyn ni'n ei gael? Codi arian, Ariannu Prosiectau, Ysgrifennu Ceisiadau Grant, Ymddiriedolaethau a Sylfeini Elusennol, Arian Torfol, Arian Cyfatebol, Cyfraniadau o Fath Arall, Cynghorau Celfyddydau, Ffynonellau ariannu yng Nghymru, Modelau Masnachol.

CYNHYRCHU – cynhyrchwyr lleoliadau, cwmnïau cynhyrchu, hunan-gynhyrchu, cyllidebau (gosod a rheoli), pethau cyfreithiol, risg, yswiriant, contractau, argyfyngau, trychinebau a chwynion

STRWYTHURAU BUSNES A RHEOLI – Beth yw'r gwahaniaeth rhwng Rheolwr Gyfarwyddwr, Prif Swyddog Gweithredol, Cyfarwyddwr Artistig, Cyfarwyddwr Gweithredol? Pa fodel busnes sy'n iawn i mi? Statws elusennol. Ffurflenni Treth. Cyfrifoldebau Cyfreithiol. Llywodraethu. Cynllunio. Cydnerthedd. Polisïau.

RHWYDWEITHIO A DYLANWADU – Plygio i mewn i rwydweithiau yng Nghymru ai peidio? Mynd i mewn i'r babell i'w dyfu neu ei ailadeiladu

CYDWEITHREDU A PHARTNERIAETHAU – chwilio am bartneriaid y tu hwnt i'r sector diwylliannol. Cynghreiriau annhebygol. Cyd-gynhyrchu. Eiddo Deallusol.

MYNEDIAD, CYNHWYSIANT A CHYDRADDOLDEB – Arfer Gorau. Sain Ddisgrifio. Sgrindeitlo. Modelau mynediad integredig. Dehongli a Chyfieithu. O bolisi i ymarfer.

I'w benderfynu – i ddiwallu anghenion penodol y garfan

LLINELL AMSER AC AMSERLEN

DYDD LLUN 9 Tachwedd Sesiwn Groeso a Chyflwyno 5-6YH

DYDD MAWRTH 10 Tachwedd Dewis o flociau awr 4-5yh neu 5.30-6.30yh

DYDD MAWRTH 17 Tachwedd Dewis o flociau awr 4-5yh neu 5.30-6.30yh

DYDD MAWRTH 24 Tachwedd Dewis o flociau awr 4-5yh neu 5.30-6.30yh

DYDD Mawrth 1 Rhagfyr Dewis o flociau awr 4-5yh neu 5.30-6.30yh

DYDD MAWRTH 8 Rhagfyr Sesiwn meddwl ar y cyd 4-6pm Ynghyd â sesiwn fentora awr yn ystod neu ar ôl i’r rhaglen orffen

PWY SY'N RHEDEG Y RHAGLEN HON?

Mae Yvonne Murphy, cyfarwyddwr theatr lawrydd, cynhyrchydd ac ymgynghorydd (www.omidaze.co.uk ) wedi defnyddio grant sefydlogi unigol ACW i greu'r rhaglen hon ac i dalu am ei hamser, ei chostau mynediad ac un ar bymtheg o weithwyr llawrydd. Mae hi wedi bod yn bosib rhedeg y rhaglen gyda chefnogaeth partneriaid (unigolion a sefydliadau) ar draws y sector perfformio byw yn rhoi o'u hamser am ddim. Bydd partneriaid gan gynnwys Cyngor Celfyddydau Cymru yn helpu i ddewis y cyfranogwyr llawrydd yn seiliedig ar y meini prawf uchod. Y bwriad yw llunio a rhannu'r rhaglen gychwynnol hon a'r adborth, dysgu a gwerthuso dilynol ar ffurf fframwaith prototeip neu enghraifft o arfer gorau o rannu gwybodaeth systematig a rhannu sgiliau yn y sector. Mae'r prototeip hwn yn cynnwys talu gweithwyr llawrydd i uwchsgilio ac edrych ar sut y gallai / y dylai gweithwyr llawrydd gyfrannu at feddwl, rhaglennu a strategaethu o fewn sefydliadau a'r sector ehangach wrth symud ymlaen.

Cyfeiriadur rhwydwaith

Ymunwch â'r rhwydwaith

Creu proffil cyfeiriadur i rannu eich gwaith ac i gysylltu a chydweithio â phobl greadigol eraill.

Jess Networking at a Creative Cardiff event