Mae S4C yn lansio gwasanaeth newyddion digidol fydd yn dod a'r newyddion diweddaraf i gynulleidfa Gymraeg o amrywiol ffynonellau.
Dyma gyfle unigryw i fod yn rhan o wasanaeth arloesol fydd yn siapio hinsawdd newyddiadurol Cymru i'r dyfodol.
Rydym yn chwilio am unigolyn sydd â syniadau creadigol a dyfeisgar am sut i ddatblygu gwasanaeth digidol o'r newydd a denu dilyniant.
Bydd gennych brofiad golygyddol a dealltwriaeth o'r gyfraith yn ymwneud â'r wasg a'r cyfryngau, yn ogystal â'r gallu i adeiladu perthnasau positif gyda phobl a sefydliadau er mwyn datblygu a chynnal partneriaethau.
Mae sgiliau ieithyddol cryf yn bwysig i'r rôl i allu sicrhau safon a chywirdeb, yn ogystal â gosod tôn ac arddull priodol ar gyfer y gwasanaeth.
Bydd gennych drwyn am stori a'r gallu i fod yn greadigol gyda'r cynnwys gan gynhyrchu cynnwys o safon sy'n dal y llygad ac yn creu sŵn.
Byddwch yn arddel gwerthoedd cynhwysol a byddwch yn frwd dros sicrhau bod amrywiaeth o bob math yn cael ei adlewyrchu gan y gwasanaeth.
Os oes gennych chi'r sgiliau a'r profiad i helpu ni i adeiladu gwasanaeth newydd byddem yn hoffi clywed gennych.
Manylion Eraill
Lleoliad: Lleoliad arferol y swydd yw Canolfan S4C Yr Egin, Caerfyrddin.
Rydym yn annog pob cyflogai i gael cydbwysedd iach rhwng bywyd a gwaith ac yn cynnig trefniadau gweithio hyblyg, megis gweithio ystwyth, ynghyd ag ystod eang o batrymau gwaith gwahanol. Mae pob un ohonynt yn amodol ar anghenion busnes.
Oherwydd yr achosion o Coronafeirws, mae S4C wedi lleihau mynediad i'w swyddfeydd ar gyfer staff nad ydynt yn ymwneud â darlledu er mwyn sicrhau diogelwch a lles unigolion ac i ddiogelu darlledu. Felly, efallai y bydd gofyn i chi weithio o bell wrth ymuno â'r sefydliad os yw'r cyfyngiadau hyn yn dal i fod ar waith.
Cyflog: Yn unol â phrofiad
Cytundeb: 24 mis
Oriau Gwaith: 35 ¾ yr wythnos. Oherwydd natur y swydd, disgwylir hyblygrwydd, gan gynnwys gweithio tu allan i oriau swyddfa, ar rai penwythnosau a gwyliau banc.
Cyfnod Prawf: 6 mis
Gwyliau: Yn ychwanegol i'r gwyliau banc statudol, bydd gennych hawl i 26 diwrnod o wyliau gyda thâl y flwyddyn.
Pensiwn: Mae hawl gan staff cyflogedig ymuno â Chynllun Pensiwn Personol Grŵp yn ddarostyngedig i delerau unrhyw gynllun sydd mewn bodolaeth ac a ddiwygiwyd o dro i dro.Os byddwch yn aelod o'r Cynllun Pensiwn Personol Grŵp, bydd S4C yn cyfrannu 10% o'ch cyflog sylfaenol i'r Cynllun.Disgwylir i chi gyfrannu 5%.
Ceisiadau
Dylid anfon ceisiadau erbyn 12:00 y prynhawn ar ddydd Mawrth 1 Rhagfyr 2020 at adnoddau.dynol@s4c.cymru neu Adnoddau Dynol, Canolfan S4C, Yr Egin, Caerfyrddin, SA31 3EQ.
Nid ydym yn derbyn CV.
Gellir cyflwyno ceisiadau yn y Gymraeg. Ni fydd unrhyw gais a gyflwynir yn y Gymraeg yn cael ei drin yn llai ffafriol na chais a gyflwynir yn y Saesneg.