Dangos a Dweud: Gŵyl Diffusion

13/04/2019 - 16:00
Shift Caerdydd, Canolfan siopa Capitol, Heol y Frenhines, CF10 2HQ
Profile picture for user Creative Cardiff

Postiwyd gan: Creative Cardiff

Bydd Caerdydd Creadigol yn dod â’i fformat Dangos a Dweud i’r gwagle creadigol newydd, SHIFT, ar ddydd Sadwrn 13 Ebrill 3-4pm, gan ganolbwyntio ar y thema Sain+Llun fel rhan o Ŵyl Ffotograffiaeth Ryngwladol Caerdydd, Diffusion

Mae sesiwn Dangos a Dweud Caerdydd Creadigol yn rhoi llwyfan i amrywiaeth cyffrous o bobl a phrosiectau creadigol yn y ddinas. Mae'n dod â chymuned greadigol Caerdydd ynghyd, o dalent newydd i enwau adnabyddus, i glywed ynglŷn â'u prosiectau cyfredol a'u dyheadau. Bydd pob siaradwr yn siarad am 10 munud ac yn dod ag eitem arbennig. Efallai bod yr eitem yma'n sbarduno ysbrydoliaeth, yn helpu eu gwaith neu'n gysur iddynt. Bydd y siaradwyr, sydd i gyd yn gweithio yn y maes Sain a Llun, yn siarad am eu gwaith ac yn esbonio pwysigrwydd yr eitem maen nhw wedi dewis.

Yn ystod y dydd (11am-5pm) bydd Diffusion yn rhoi’r sbotolau ar y gymuned greadigol yng Nghaerdydd a’r ardaloedd cyfagos gyda ffair gwneuthurwyr i roi cyfle i artistiaid, cynhyrchwyr, gwneuthurwyr a dylunwyr arddangos eu gwaith, gwerthu eu cynhyrchion a rhwydweithio o fewn ein byd creadigol bywiog. Dewch i Shift o dan ganolfan siopa Capitol am ddiwrnod o arddangoswyr a sgyrsiau, neu galwch heibio am 3pm i weld ein siaradwyr Dangos a Dweud! 

Ffion Wyn Morris, DJ a sefydlydd Ladies of Rage CDF.

Matthew Creed, pennaeth animeiddio Jammy Custard. 

4Pi Producions, stwidio creadigol yn canolbwyntio ar profiadau trochol. 

Archebwch nawr