De Cymru Trochol fel rhan o Wythnos Dechnoleg Cymru: addasu ac arloesi

15/07/2020 - 15:30
Online - zoom
Profile picture for user Creative Cardiff

Postiwyd gan: Creative Cardiff

Mae De Cymru Trochol yn gyfarfod a drefnir gan Caerdydd Creadigol ar gyfer y clwstwr technoleg ymgolli sydd ar dwf yn ne Cymru. Bydd ein cyfarfod ar-lein cyntaf yn rhan o Wythnos Dechnoleg Cymru (13 - 17 Gorffennaf 2020).  

Mae'r digwyddiadau hyn yn gyfle i rannu gwybodaeth a dysgu ar dechnoleg ddatblygol (realiti rhithwir / realiti estynedig / realiti cymysg) rhwng ymarferwyr technoleg a chreadigol ac amrywiaeth eang o academyddion sy'n defnyddio'r dechnoleg. Ein gobaith yw annog rhwydweithio a chyfleoedd i gydweithio.

Ymunwch â ni ar gyfer y cyfarfod ar-lein cyntaf lle gallwch ddisgwyl:

  • Sgyrsiau arddangos gan gwmnïau sydd wedi addasu ac arloesi mewn ymateb i covid-19
  • Cyfle i ryngweithio a rhannu gwybodaeth am ganllawiau, cynhyrchion ac addasiadau i ffyrdd o weithio
  • Cyfle i roi gwybod i ni sut y gallai'r rhwydwaith hwn fod yn ddefnyddiol i chi a'ch cwmni

Rydym ni'n croesawu'n arbennig y rheini nad ydyn nhw wedi dod i gyfarfod o'r blaen

Bydd capsiynau caeedig ar gael ar gyfer y cyfarfod

I roi gwybod sut y gallem ni wneud y digwyddiad ar-lein yn hygyrch i chi, cysylltwch â  creativecardiff@cardiff.ac.uk

Sgyrsiau Arddangos

Derick Gwyn Murdoch

Cyfarwyddwr Creadigol Galactig.

Mae Derick yn arbenigwr ym maes Profiad y Defnyddiwr a dylunio Rhyngwyneb Defnyddiwr gyda sylw i fanylion a'r gallu i greu dyluniadau greddfol ar draws y cyfryngau gyda chraffter technegol. Ar ôl gweithio yn y sector masnachol fel uwch-ddylunydd a chynhyrchydd creadigol, yn 2011 sefydlodd Galactig, asiantaeth ddigidol ddwyieithog lwyddiannus ac adnabyddus sydd wedi cyflenwi amrywiaeth o brofiadau digidol ar raddfa fawr. 

John Giwa-Amu

John sy'n rhedeg Good Gate Media, cwmni datblygu gemau yng Nghaerdydd.  Cenhadaeth Good Gate yw creu gemau stori rhyngweithiol sy'n gadael i'r chwaraewr fod yn arwr yn ei ffilm ei hun. Mae'n arbenigo mewn gemau gweithredu byw, rhyngweithiol lle gall y gynulleidfa fod yn arwyr yn ystraeon maen nhw'n helpu i'w creu. Mae'r ffilmiau'n fasnachol eu naws gyda thalent sgrin o fri rhyngwladol, gan gyrraedd marchnadoedd byd-eang ar lwyfannau fel Xbox, Steam, PlayStation, Nintendo, Android ac iOS.

Viki Johnson

Datblygwr Unity AR gyda Fictioneers Limited

Mae Viki yn helpu i gyflenwi The Big Fix Up: profiad adrodd stori estynedig newydd a grëwyd gan Fictioneers ac Aardman a gaiff ei lansio yn yr hydref, gyda'r trysorau cenedlaethol Wallace & Gromit. Bydd Viki'n trafod effaith y pandemig, y symudiad i brofiad llawn yn y cartref, a manteision gweithio'n heini mewn byd sy'n newid yn barhaus.

Cyfarwyddiadau ymuno:

Cliciwch yma er mwyn cofrestru ar gyfer y digwyddiad cyn gynted â phosib ar Zoom.