Cymunedau’n dod ynghyd ar gyfer Dydd Sadwrn Teg cyntaf Caerdydd

Profile picture for user Creative Cardiff

Postiwyd gan: Creative Cardiff

Dyddiad: 5 December 2019

Cyrhaeddodd Dydd Sadwrn Teg Gaerdydd ddydd Sadwrn, 30 Tachwedd gyda thros 25 o ddigwyddiadau ar draws y ddinas i ddathlu pŵer y celfyddydau, diwylliant a threftadaeth. 
 

Mae dydd Sadwrn Teg, sy’n dilyn dydd Gwener y Gwario Gwallgof, yn fudiad diwylliannol byd-eang â’r nod o greu cymdeithas fwy cyfiawn. 
 
Agorwyd dydd Sadwrn Teg cyntaf Caerdydd yn swyddogol gan Arweinydd y Cyngor, y Cynghorydd Huw Thomas ar risiau Neuadd Dewi Sant. 
 
Dywedodd y Cynghorydd Thomas: “Mae Dydd Sadwrn Teg yn ymwneud â gosod diwylliant a lles cyhoeddus yn ôl yng nghalon ein cymuned. Mae’n golygu gosod cymuned o flaen diwylliant prynu, empathi o flaen trachwant, ac mae’n ymwneud â chydweithio yn erbyn materoliaeth. Mae’n wych bod hyn yn digwydd yma yng Nghaerdydd. 
 
“Rwyf i wir yn gobeithio y bydd heddiw’n llwyddiant gan fod diwylliant yn golygu cymaint i ni yma yng Nghaerdydd. Mae gennym ni gynifer o gyrff diwydiannol gwych sy’n haeddu cael eu dathlu.”

“Fair Saturday is about putting culture and public good at the heart of our communities...it’s about community over consumerism”- Cllr @huwthomas_Wales welcomes everyone to Cardiff’s first @FairSaturday / Arweinydd y Cyngor yn croesawu pawb i Ddydd Sadwrn Teg cyntaf Caerdydd pic.twitter.com/vSJU9geWDB

— CaerdyddCreadigol | CreativeCardiff (@CreativeCardiff) November 30, 2019

Yna cafwyd Cydganu gyda chorau lleol a cherddoriaeth gan Fand Pres Bro Taf er budd Cymorth i Ferched Cymru a Bawso. 
 
Ar draws y ddinas, cafwyd digwyddiadau’n amrywio o Farchnad Nadolig Leol Etsy Caerdydd yn Neuadd y Ddinas i’r Farchnad Nadolig yn Chapter a Cherddoriaeth ym Marchnad y Rhath. Cafwyd rhywbeth at ddant pawb. 
 
Yn Hwb Grangetown, bu Caerdydd Creadigol yn bartner ar weithdy bioamrywiaeth ar gyfer Pafiliwn y Grange gydag Ysgol Pensaernïaeth Cymru, y Porth Cymunedol a Phrosiect Pafiliwn y Grange.

Happy #SundayFunday everyone! We had an amazing time @GrangetownHub yesterday brainstorming how the garden and @Grange_Pavilion can be more #ecofriendly and #biodiverse Thank you so much to all the Masters students from @WSofArchi and volunteers who came along☺️ pic.twitter.com/Dx2b33AiKr

— Community Gateway (@CommunityGtwy) December 1, 2019

Arweiniwyd y digwyddiad gan Lynne Thomas, arweinydd prosiect y Porth Cymunedol a Marie Davidova, darlithydd yn Ysgol Pensaernïaeth Cymru. Yng nghwmni myfyrwyr Meistr o’r cwrs Tirweddau Synergaidd, rhannwyd eu syniadau ar gyfer ailddylunio gerddi Grange yn 2019.  Trafodwyd syniadau i wneud pafiliwn y Grange a’r gerddi yn ecogyfeillgar, yn gynaliadwy ac yn fioamrywiol - gan annog ecosystem gylchol er budd bywyd gwyllt, natur a’r gymuned gyfan. 

Soniodd Marie Davidova am y cyfle i gyd-ddylunio’r gerddi a rhoi llais i bawb yn y broses: 

“Rydym ni’n dylunio ymyriadau a ddylai gefnogi cyd-fyw traws-rywogaethol yng Ngerddi Grange, gan gynnwys pobl. Mae cyd-ddylunio’n dal i fod yn ymagwedd ffres at ddylunio heb ddylunydd ‘meistr’ yn cyflwyno’r cynllun ‘terfynol’. Yn lle hynny gwahoddir yr holl randdeiliaid perthnasol (grwpiau cymdeithasol cymunedol, cyrff anllywodraethol ac ati) i gyd-greu’r newidiadau yn yr amgylchedd.” 

Dywedodd Vicki Sutton, Rheolwr Prosiect Caerdydd Creadigol: 

“Rydym ni’n falch i fod yn rhan o Ddydd Sadwrn Teg cyntaf Caerdydd - mudiad byd-eang sy’n lledaenu ethos cadarnhaol. Mae trawsnewid Pafiliwn a gerddi’r Grange i greu hwb cymdeithasol newydd i’r gymuned yn brosiect cyffrous a phwysig. Rydym ni'n edrych ymlaen yn fawr at weld beth fydd yn digwydd.” 

Mae prosiect Pafiliwn y Grange yn codi arian i lansio cyfleuster yng Ngerddi Grange. Os hoffech gyfrannu, cliciwch yma. 
 
Daeth Dydd Sadwrn Teg cyntaf Caerdydd i ben gyda Rêf yr Arglwydd Faer yn yr Hen Lyfrgell am hanner nos, gyda dawnsio, canu a dathlu. 
 
Gallwch weld mwy o weithgaredd Dydd Sadwrn Teg drwy ddilyn #FairSaturday ar Twitter.