Cyfres dau Get a ‘Proper’ Job, pennod #4 - Dod yn weithiwr creadigol yn 2020

I weithwyr creadigol sy’n becso am y materion pwysig, mae Get a ‘Proper’ Job yn bodlediad sy’n trafod ac yn arddangos uchafbwyntiau ac isafbwyntiau gweithio mewn swydd neu sefydliad creadigol. Rydym yn dod ag arbenigwyr y diwydiant ynghyd i rannu gwybodaeth newydd.

Profile picture for user Creative Cardiff

Postiwyd gan: Creative Cardiff

Dyddiad: 6 November 2020

Yn y pedwerydd rhifyn o ail gyfres Get A 'Proper' Job, mae'r cyflwynydd Kayleigh Mcleod yn sgwrsio gydag Ali Abdi, rheolwr partneriaeth y Porth Cymunedol, ac Alexia Barrett a raddiodd yn ddiweddar o’r Ysgol Newyddiaduraeth, y Cyfryngau a Diwylliant, am bontio o fod yn berson ifanc creadigol i fod yn weithiwr creadigol.

Recordiwyd y bennod hon o bell o ganlyniad i gyfyngiadau COVID-19 ym mis Awst 2020.

Ali Abdi, Alexia Barret and Kayleigh Mcleod recording a podcast

Mae Alexia yn awdur, podledwr ac yn aelod o Grŵp Cynghori Caerdydd Creadigol. Wrth siarad am y farchnad swyddi ar hyn o bryd, dywedodd: "Rwy'n gobeithio y bydd llawer mwy o gyfleoedd yn ymddangos ac er gwaethaf y pandemig y bydd y DU yn ffynnu ac y bydd llawer mwy o bobl yn dal i fynd ati i wneud ffilmiau, cynhyrchu a newyddiaduraeth. Rwy'n gobeithio manteisio ar y cyfleoedd hynny yn y dyfodol a gwneud pethau gwych i adeiladu fy ngyrfa."

Mae gwaith Ali'n canolbwyntio ar feithrin partneriaethau llwyddiannus rhwng Prifysgol Caerdydd a chymuned Grangetown drwy amrywiaeth o raglenni ymgysylltu a datblygu i bobl ifanc.

Wrth siarad am ddyfodol y diwydiannau creadigol yn y ddinas, dywedodd: "Fy ngobaith at y dyfodol yw y bydd y Diwydiannau Creadigol yn fwy amrywiol, yn fwy rhagweithiol, yn ymgysylltu'n fwy nag erioed ac y bydd Caerdydd a Chymru ar y map am greu rhai o'r bobl greadigol orau a datblygu'r bobl greadigol orau."

Gwrandewch ar y bennod lawn:  

iTunes: https://apple.co/32j6QaG

Spotify: https://spoti.fi/366vi0o

Dolenni a rhagor o wybodaeth

Gwnaethpwyd Get a ‘Proper’ Job gan rwydwaith ddinesig Caerdydd Creadigol ar y cyd â’r gymuned greadigol ac ar ei chyfer.

Gwrando ar benodau eraill o gyfres gyntaf Get A 'Proper' Job yma.