Wedi'i lleoli yng Nghaerdydd, Cymru, gyda'r angen i deithio ledled Cymru ac yn achlysurol i Milton Keynes
Llawn Amser – contract dwy flynedd dros dro
Mae Llywodraeth Cymru wedi caffael gan Y Brifysgol Agored ddarpariaeth Tystysgrif Addysg i Raddedigion (TAR) sy'n seiliedig ar ddysgu o bell yn yr ysgol mewn partneriaeth â'r brifysgol, a fydd yn ymgorffori'r ddarpariaeth bresennol sy'n seiliedig ar gyflogaeth yng Nghymru (y llwybr cyflogedig) a llwybr rhan amser newydd.
Ar hyn o bryd rydym yn recriwtio Uwch-reolwr i sefydlu prosesau a chefnogi'r Rhaglen TAR newydd.
Deiliad y rôl fydd uwch-arweinydd gweinyddol TAR Y Brifysgol Agored yng Nghymru a bydd yn gyfrifol am ddarparu'r rhaglen ac am y tîm cymorth. Byddwch yn gweithio'n agos gyda'r Cyfarwyddwr TAR a rhanddeiliaid allweddol er mwyn sicrhau ansawdd y rhaglen a'i chyflwyno ledled Cymru.
Byddwch yn uwch-reolwr trefnus a phrofiadol iawn gyda phrofiad o sefydlu a chyflwyno rhaglenni a'r gallu i gyfathrebu'n effeithiol ag uwch-randdeiliaid ac amrywiaeth o bartneriaid. Byddwch yn awyddus i gymryd rhan weithgar yn y broses o gyflwyno Cwricwlwm 2022 yng Nghymru ynghyd â mentrau eraill ym maes addysg drwy'r rhaglen arloesol hon. Fel rhan o'r rôl, bydd angen i chi wneud rhywfaint o deithio at ddibenion gwaith ledled Cymru, a theithio i Milton Keynes o bryd i'w gilydd. Disgwylir i chi fyw o fewn pellter cymudo rhesymol i swyddfeydd Y Brifysgol Agored yng Nghymru, yng Nghaerdydd.
Cewch gyflwyno'ch cais yn Gymraeg, ac ni chaiff ei drin yn llai ffafriol na chais a gyflwynir yn Saesneg.
I gael disgrifiad swydd a manyleb y person llawn, ewch i (http://www.open.ac.uk/about/employment/sites/www.open.ac.uk.about.employment/files/JD%20Senior%20Manager%20G8%20PGCE%20WELSH%20Version.pdf
Os oes gennych unrhyw gwestiynau am y broses o wneud cais, cysylltwch â resourcing-hub@open.ac.uk, gan ddyfynnu'r rhif cyfeirnod
I gael rhagor o wybodaeth am y rhaglen, ewch i,
I gael rhagor o wybodaeth am Y Brifysgol Agored yng Nghymru, y Gyfadran a'r Ysgol, gweler y dolenni cyswllt isod,
http://www.open.ac.uk/wales/cy
http://wels.open.ac.uk/schools/education-childhood-youth-sport
Sut i wneud cais
Dylech gyflwyno ffurflen gais ynghyd â'ch CV a llythyr eglurhaol (uchafswm o 3-4 ochr o A4). Gwnewch yn siŵr bod eich llythyr eglurhaol yn mynd i'r afael yn glir â'r meini prawf hanfodol a dymunol a restrir yn nisgrifiad y swydd.
Dewiswch enghreifftiau penodol o'ch profiad sy'n dangos yn glir fod gennych y wybodaeth a'r galluoedd penodol gofynnol a nodir yn y disgrifiad swydd a manyleb y person.
Dylech gyflwyno'ch cais i resourcing-hub@open.ac.uk, gan ddyfynnu'r rhif cyfeirnod 16511.
Dyddiad Cau: Canol dydd 20/9/19
Dyddiad Cyfweld: I’w gadarnhau
Rydym yn hyrwyddo amrywiaeth mewn cyflogaeth ac yn croesawu ceisiadau gan bob rhan o'r gymuned.
Noder: Os na fyddwch wedi clywed gennym o fewn pythefnos i ddyddiad cau y cais, dylech gymryd yn ganiataol nad ydych wedi cael eich dewis ar gyfer cyfweliad ar yr achlysur hwn, ond rydym yn ddiolchgar i chi am ddangos diddordeb yn Y Brifysgol Agored ac yn eich annog i wneud cais am swyddi yn y dyfodol.