Dyddiad cau ar gyfer Ceisiadau : Gwen 13 Medi 2019 12:00pm
Dyddiadau Clyweliadau : Maw 15 Hyd 2019
Dyddiadau Clyweliadau : Mer 16 Hyd 2019
Mae Opera Cenedlaethol Cymru yn rhannu pwer opera byw gyda chynulleidfaoedd a chymunedau ledled Cymru a Lloegr – mewn theatrau, cymdogaethau ac arlein.
Mae Cerddorfa WNO yn ensemble o safon byd eang, sydd wedi derbyn cryn glod gan y beirniaid ers ei ffurfio fel corff llawn-amser yn 1970. Yn ogystal â chyflwyno rhaglen opera prif raddfa amrywiol a heriol, mae’r gerddorfa’n perfformio amrywiaeth eang o gyngherddau symffonig a siambr gyda’r Cyfarwyddwr Cerdd Tomáš Hanus ac Arweinydd y Gerddorfa, David Adams.
Mae cyfrifoldebau Cerddorfa WNO yn parhau i ehangu yn sgil cyfnodau preswyl a gwaith cymunedol, a ffurfiwyd cysylltiadau cryf drwy raglenni arloesol gyda Choleg Brenhinol Cerdd a Drama Cymru a’r Birmingham Conservatoire.
Mae WNO yn chwilio am Sub-Principal Clarinet brwdfrydig ac ymroddedig i ymuno â’i Gerddorfa, including sitting Section Principal Clarinet and playing Bass Clarinet, Bassett Horn and Eb Clarinet yn ôl y gofyn.
Bydd clyweliadau yn cynnwys 2 rownd. Bydd yr ymgeiswyr a chaiff eu gwahodd i aros am yr ail rownd yn cael eu clywed ar yr un diwrnod.
Anfonir rhagor o wybodaeth ynghylch proses/gofynion y clyweliadau (gan gynnwys darnau gosod / detholiadau / gwybodaeth am y ddwy rownd ac ati) at yr ymgeiswyr sy’n cyrraedd y rhestr fer yn unig.
Mae’n bosib y bydd rhagor o ddyddiadau / clyweliadau os bydd angen, ond nid oes unrhyw gynlluniau i wneud hynny yn bresennol; ac nid yw WNO yn gallu gwarantu bod dyddiadau ychwanegol am gael eu cynnig.