Fe adawodd protestiadau'r Extinction Rebellion argraff ar Gaerdydd wythnos diwethaf ar ôl iddyn nhw wersylla tu allan i Neuadd y Ddinas a meddiannu stryd y Castell er mwyn codi ymwybyddiaeth o’r argyfwng hinsawdd yn y byd. Cawsom sgwrs gydag un o bobl greadigol y ddinas oedd yn rhan o'r protestio i siarad am gelf, gweithredu a theatr yng Nghaerdydd. Mae Jac Ifan Moore yn gyfarwyddwr theatr a fu'n rhan o Ddinas yr Annisgwyl, ac ar hyn o bryd ei gwmni theatr, Powder House, yw'r cwmni preswyl yn Theatr y Sherman. Ar hyn o bryd, mae'n cyfarwyddo sioe un fenyw gan Alan Harris, For All I Care. Cawsom sgwrs gyda Jac rhwng ymarferion yn Chapter yr wythnos yma. 

Beth yw dy waith di? 

Dwi’n gyfarwyddwr theatr. Nes i dyfu fyny yng Nghaerdydd yna es i’r coleg yn Exeter. Ar ôl graddio nes i sefydlu cwmni yno mewn theatr o’r enw Bikeshed ac wedyn fues i ym Mryste am gyfnod. Ddes i nôl i Gaerdydd am un swydd benodol fel rhan o dymor cyntaf The Other Room, swydd yn cynorthwyo oedd o. Wedyn fues i’n ffodus ac mi ges i gyfle i weithio gyda National Theatre Wales ac yn byw ‘da mam a dad. Dyna pryd y dechreuais i feddwl byddai’n well i mi gal lle fy hun yng Nghaerdydd. 

Pum mlynedd yn ddiweddarach – a dwi dal yma! Dwi wedi bod yn lwcus iawn fel cyfarwyddwr ifanc, ti’n trio am lot o waith a ti’n delio gyda lot o siom. Dyw pobl ddim yn gweld yr ochr honno - does dim un wythnos yn mynd heibio pan dwi ddim yn gwneud cais am ryw swydd neu’n llenwi ffurflen gais am rywbeth.

Dwi wedi sefydlu cwmni gyda chyfarwyddwr arall, Chelsey Gillard, o’r enw Powderhouse. Ni yw’r cwmni preswyl yn Theatr y Sherman a da ni newydd orffen ein sioe gyntaf ni – Saethu Cwningod / Shooting Rabbits. Da ni’n trio paratoi am yr ail gynhyrchiad rŵan. Da ni ‘di gwneud tipyn o ymchwil a datblygu arno fo ac wedyn nawn ni weld os fedrwn ni ‘i ariannu fo. 

Beth sy’n dy ysbrydoli am fod yng Nghaerdydd?

O’n i ‘rioed di meddwl ‘sen i nôl yng Nghaerdydd ac i raddau ma’ fy nodrefn i’n byw yng Nghaerdydd a dwi’n byw ar y trên. Achos bo fi’n llawrydd dwi’n gorfod dilyn y gwaith. Bydda i yng Nghaeredin ym mis Awst a dwi’n treulio hanner fy amser yn Llundain ond mae’n neis dod 'nôl i Gaerdydd. 

Se’n well gen i fod yn dlawd a pharhau i fod yn greadigol a dwi’n gallu gwneud hynny yma. Mae costau byw’n isel yng Nghaerdydd. Mae gen ti’r rhyddid i fod yn fwy creadigol a pheidio poeni am y swydd nesaf. ‘Sen i’n byw yn Llundain bydden i’n cael panig am waith a phres – yng Nghaerdydd ti’n gallu gorffwys a meddwl yn fisol neu’n flynyddol yn hytrach na’n wythnosol. 

Ddes i nôl yn ystod adeg lle'r oedd lot yn digwydd yn y ddinas... Roedd The Other Room newydd ddechrau a Rachel O’Riordan newydd gymryd drosodd yn y Sherman. Nath hi drawsnewid y lle ac fe ges i lawer o gyfleoedd i ddatblygu drwy’r Sherman – yn gyntaf fel cynorthwyydd i Rachel a nawr fel cyfarwyddwr ar rai o’u  cynhyrchiadau. Roedd o’n digwydd bod yn adeg lle’r oedd National Theatre Wales hefyd yn brysur iawn yn creu lot o waith felly ges i ddigon o gyfleoedd i ddechrau arni efo cwmnïau da. Dwi wedi medru datblygu’r cysylltiadau yna.

Wyt ti wedi wynebu unrhyw heriau wrth weithio yma?

Wel, dyw e ddim yn hawdd bod yn artist a ti’n gorfod delio efo siom a gorfod cyfiawnhau dy waith. Mae’n rhaid i ti werthu dy hun dro ar ôl tro. Da ni fel artistiaid yn gorfod bod yn fentrus ac yn entrepreneurs, er da ni ddim yn licio meddwl am ein hunain fel ‘na. 

Ond dwi hefyd yn cydnabod y lefel o fraint sydd gen i fel dyn gwyn straight sy’n siarad Cymraeg – does dim lot yn sefyll yn fy ffordd i, heblaw am fy hun. 

Un peth arall sy’n rhwystredig yng Nghymru yw’r cyllid – does dim llawer ohono. Mae digon o waith yn cael ei greu yma ond dim digon o gyllid i’w gefnogi. Mae’r 10 i 15 mil o bunnoedd ychwanegol ti’n gallu ei dderbyn yn Lloegr yn gwneud gwahaniaeth o ran twf ac uchelgais cynhyrchiad a chwmni. Yn ogystal â hynny, pur anaml y gweli di sioe efo mwy na 4 actor yng Nghaerdydd achos bod angen mwy o gyllid.

Yn dy farn di, beth sydd angen digwydd i wneud Caerdydd yn ddinas fwy creadigol?

Ar y cyfan mae Caerdydd yn teimlo fel dinas greadigol fel y mae. Er bo theatr yn gweithio gyda llai a llai o bres, mae dal yn fraint gallu gwneud gyrfa o greu celf. O ran theatr, da ni ddim yn gwneud yn rhy ffôl. 

Be sydd ‘i angen, a dweud y gwir, yw mwy o leisiau gwahanol ac amrywiol yn y sectorau creadigol. Yn enwedig yn yr iaith Gymraeg. Mae dal yn bennaf yn wyn a dosbarth canol.

Dewisa un person creadigol yng Nghaerdydd y dylwn ni gyd wybod mwy amdanynt.

Y Cyfarwyddwr, Mathilde Lopez. O’n i’n gweithio ar gynhyrchiad o’r enw Highway One efo hi llynedd. Mae gwaith Mathilde wastad yn ddiddorol, wastad yn wahanol a wastad yn ddoniol. Mae hefyd yn hygyrch iawn! Da ni’n brin o bobl sy’n trio gwneud pethau annisgwyl a gwahanol yng Nghaerdydd - da ni’n lwcus i gael rhywun fel Mathilde yn creu yma.  

Roeddet ti’n rhan o’r protestiadau Extinction Rebellion wythnos yma, be’ wnaeth dy ysgogi di i gymryd rhan?

Dwi wedi bod yn hanner gwneud efo Extinction Rebellion ers y protestiadau yn Llundain ac wedi bod yn rhan o’r grŵp Caerdydd ers tipyn. O’n i’n methu ymroi’n llwyr i’r brotest gan fod gen i waith ond on i’n gwneud be on i’n gallu. Cwpl o oriau yn y bore cyn ymarferion, ac yna shifft stiwardio gyda’r nos. 

Y peth yw, mae’n effeithio pawb! Dwi’n credu bod o’n bwysig ein bod ni fel prifddinas Cymru’n codi’n lleisiau ac yn gwneud sŵn. Ers i Gymdeithas yr Iaith baentio popeth yn wyrdd does dim lot o anufudd-dod sifil wedi bod yng Nghymru. Da ni di anghofio sut i weithredu’r math yma o anufudd-dod sifil. Mae Extinction Rebellion yn darparu hyfforddiant i unrhyw un sydd efallai heb wneud y math yma o brotest o’r blaen – sut i ymddwyn, beth yw’r berthynas gyda’r cyhoedd a’r heddlu a dwi’n credu bod hynny’n bwysig. 

Does neb eisiau tarfu ar drefn bywyd bob dydd pobl ond dwi’n meddwl weithiau bod angen i ni gyd i ddeffro. Mae fel ein bod ni gyd yn y sinema ac yn mwynhau’r ffilm. Does neb eisiau bod y person yna sy’n codi yng nghanol y sinema a gweiddi am ryw broblem tu hwnt i’n golwg. Does neb yn mynd i hoffi’r person hwnnw ond os mae’n gweiddi achos bod tân yn bygwth y sinema yna byddai pawb yn ddiolchgar yn y pendraw.

Mae Extinction Rebellion yn ceisio codi ymwybyddiaeth ymysg gwleidyddion ynghylch y sefyllfa o argyfwng hinsawdd, pa rôl sydd gan greadigrwydd yn hyn o beth?  

Mae gen i lot o ddiddordeb yn y cysylltiad rhwng artist a gweithredwr. O ran theatr, mae’n rhaid i ni feddwl am faint o wastraff da ni’n creu – ar lefel ymarferol – ail gylchu defnydd set a thrydanu ac ati. 

O ran cynnwys cynhyrchiad, dyw ystadegau ddim yn sbarduno pobl i newid a gweithredu. Mae angen straeon i sbarduno pobl i newid. Mae gwylio Attenborough’n siarad am yr amgylchedd siŵr o fod yn lot fwy tebygol o gael argraff ar rywun na ffeithiau a ffigyrau ar ddarn o bapur. Mae pobl angen stori i brosesu.

Dwi’n meddwl bod artistiaid eisiau cyfleu’r neges mewn ffordd y byddai’n creu argraff ar gynulleidfa’n emosiynol. Mae angen i empathi lywio cynnwys cynhyrchiad theatrig. Fyddai gwylio un sioe am yr amgylchedd ddim yn newid barn pobl ond gall greu argraff. Efallai ei bod yn rhan o ddarlun mwy, ac yn dangos newid diwylliannol.

Beth sydd nesaf i ti? Pa brosiectau sydd ar y gorwel? Pa syniadau newydd wyt ti’n eu datblygu?

Llwyth o bethau! Mae gen i bethau bach yn ffrwtian ond dim byd fedra i ‘u rhannu eto am nad ydyn wedi’u eu cyhoeddi gan y cwmnïau felly gorfod cadw’n dawel am ambell beth. Dwi’n ffodus mod i’n gallu parhau i greu gyda’r cwmnïau dwi di sôn amdanyn nhw ac yn gobeithio creu gwaith arbrofol gyda rhai newydd yn y dyfodol.

‘Sen i hefyd yn licio cyfarwyddo un o ddramâu Lorca achos nes i ddarllen llwyth o’i ddramâu ar gyfer y prosiect diwethaf. House of Bernarda Alba, Blood Wedding, Yerma...maen nhw gyd yn wych! Ond, mae hynny’n y dyfodol. 

Ar hyn o bryd dwi’n cyfarwyddo sioe o’r enw For All I Care – drama wych gan Alan Harris. Da ni’n ymarfer yn Chapter ar y foment ac mae gennym ni ragweliadau yma ar y 24ain a’r 25ain o’r mis ac wedyn da ni’n mynd fyny i Gaeredin am fis cyfan i’w pherfformio. 

Bydd ragweliadau'r sioe For All I Care yn Chapter ddiwedd y mis.

Share