Caerdydd Creadigol mewn sgwrs gyda Chymru Greadigol

Profile picture for user Creative Cardiff

Postiwyd gan: Creative Cardiff

Dyddiad: 20 April 2020

Mae manylon am gronfeydd newydd i bobl greadigol ar draws Cymru wedi'u datgelu gan Cymru Greadigol.

Dirprwy Gyfarwyddwr Cymru Greadigol, Gerwyn Evans, fu’n rhannu gwybodaeth am y Gronfa Cymorth Datblygu Digidol Brys a'r Gronfa Datblygu Teledu Brys sy'n agor ddydd Llun (20 Ebrill).

Mewn sesiwn holi ac ateb fyw ar-lein gyda Sara Pepper, Cyfarwyddwr yr Economi Greadigol ym Mhrifysgol Caerdydd, eglurodd Gerwyn fod Cymru Greadigol wedi 'ailgyfeirio ei chyllideb gyfan at gronfeydd cymorth COVID-19' a bod edefyn cyntaf y cyllid - y Gronfa Gymorth ar gyfer Cerddoriaeth Llawr Gwlad - gyda grantiau o hyd at £25,000 - wedi derbyn ymateb enfawr.  

I fod yn gyson, bydd y cronfeydd Teledu a Digidol Brys hefyd yn rhyddhau grantiau o hyd at £25,000 gyda chyllid o 100%, heb fod angen cyllid cyfatebol gan yr ymgeiswyr.

Dywedodd Gerwyn: "Lle bo'n bosib, byddwn yn rhoi'r arian yn uniongyrchol cyn gynted ag y gallwn. Rwy'n obeithiol y gallwn roi'r arian i'r ymgeiswyr llwyddiannus mor gyflym â phosib. Bydd y broses ymgeisio'n fyw ddydd Llun - edrychwch ar ein cyfryngau cymdeithasol a'n gwefan i gael y ffurflenni ymgeisio."

Bydd y Gronfa Datblygu Teledu Frys ar agor i gwmnïau cynhyrchu annibynnol o unrhyw faint sydd wedi'u cofrestru yng Nghymru. Gall y prosiectau fod ym meysydd dogfen ffeithiol, animeiddio neu gomedi y bwriedir eu darlledu ar y teledu a dylent fod ar gam cynnar eu datblygiad i symud at gynhyrchu unwaith y bydd y cyfyngiadau ar symud wedi'u codi. Nid yw prosiectau theatrig na chynnwys ffurf fer yn addas ar gyfer y cynllun hwn.

Wrth drafod anghenion gweithwyr llawrydd ar hyn o bryd, fel yr amlygwyd yn ymchwil ddiweddaraf Caerdydd Creadigol ac arolwg PAYE gweithwyr llawrydd BECTU, cydnabu Gerwyn yr anhawster wrth geisio darparu cyllid i bob rhan o'r economi.

Dywedodd:  "Rhaid i ni fod yn gwbl onest a chyfaddef ei fod yn fwlch - ac rydyn ni wedi ceisio gweld sut y gallem ni gefnogi gweithwyr llawrydd, ond mae'n anodd iawn ei wneud. Fe wyddom fod hon yn rhan enfawr, bwysig o'r sector nad ydyn ni'n gallu ei chefnogi ar hyn o bryd.

"Beth rydyn ni'n ei wneud yw cyfeirio pobl cymaint ag y gallwn at gronfeydd eraill a chymorth ehangach. Mae'n golygu deall sut y gallwn ni gefnogi'r gymuned lawrydd ac rydyn ni'n credu y gallai fod rhywbeth yn y gofod hyfforddi - cyfleoedd i weithwyr llawrydd gyda BECTU er enghraifft."

Anelir y Gronfa Cymorth Datblygu Digidol Brys at gemau, animeiddio, asiantaethau digidol a busnesau digidol creadigol sy'n cefnogi cadw IP fydd yn eu galluogi i dyfu.

Dywedodd Gerwyn: "Rydyn ni'n gobeithio ein bod wedi'i gynllunio mewn ffordd sy'n ei gwneud yn eithaf hawdd i bobl feddwl am syniad ac ymgeisio. Hoffem pe bai'r prosiectau hyn yn cefnogi gweithwyr llawrydd cymaint ag sy'n bosib hefyd."

Mae nifer o gronfeydd gwahanol ar gael i bobl greadigol drwy Cymru Greadigol a Llywodraeth Cymru yn ogystal ag asiantaethau cymorth eraill fel Cyngor Celfyddydau Cymru.

Wrth drafod hyn dywedodd Gerwyn: "Rwy'n deall bod hwn yn ddarlun dryslyd i bobl Cymru ei ddeall - mae tîm Cymru Greadigol yma i gynnig arweiniad ar y camau gorau i'w cymryd.

"Dyw'r atebion i gyd ddim gen i, a dwyf i ddim yn credu eu bod gan neb ar hyn o bryd. Yr hyn sy'n wirioneddol gadarnhaol yw sut mae'r sector wedi dod at ei gilydd - mae'r adborth dyddiol rydych chi'n ei anfon atom yn cael ei fwydo i'n gwaith.

"Parhewch i anfon eich adborth ac os nad ydyn ni'n cynnig cefnogaeth mewn maes lle dylen ni fod yn gwneud, rhowch wybod i fi.

"Gobeithio y gallwn ni ddechrau tyfu'r economi greadigol wych hon yng Nghymru eto."

Mae ceisiadau ar gyfer cronfeydd Cymru Greadigol yn agor ddydd Llun (20 Ebrill) ac yn cau dydd Llun 18 Mai gyda phenderfyniadau ar ymgeiswyr llwyddiannus erbyn dydd Llun 1 Mehefin. I gael rhagor o wybodaeth ewch i wefan Cymru Greadigol.

Atebodd Gerwyn gwestiynau hefyd ar Strategaeth Ryngwladol Llywodraeth Cymru, bwrdd anweithredol Cymru Greadigol a chronfeydd eraill sydd ar gael i bobl greadigol. Gallwch weld y cyfweliad llawn gyda Gerwyn yma:

Darparwyd isdeitlau Cymraeg ar y cyfweliad mewn amser real felly ymddiheuriadau os ydyn nhw'n anghywir o dro i dro.

Dywedodd Sara Pepper, Cyfarwyddwr yr Economi Greadigol ym Mhrifysgol Caerdydd: "Rydyn ni'n cydnabod ymdrech a chyfraniad amrywiol sefydliadau i ddod o hyd i ffyrdd i gefnogi'r sector ar hyn o bryd mewn tirwedd sy'n newid yn barhaus. Diolch yn fawr i Gerwyn am fod y cyntaf i gael ei gyfweld yn y gyfres 'Yng Nghwmni'. Edrychwn ymlaen at gyflwyno rhagor o wybodaeth i'r gymuned greadigol pan ddaw gan Cymru Greadigol a chyrff a chyllidwyr eraill.

"Fe wyddom fod angen gwneud mwy i sicrhau bod y rheini nad ydyn nhw'n gymwys am y cronfeydd a'r cynlluniau sydd wedi'u cyhoeddi hefyd yn cael eu cefnogi drwy a thu hwnt i'r argyfwng hwn."

Cynhelir y digwyddiad 'Mewn Sgwrs...' nesaf gyda Rhodri Talfan Davies, Cyfarwyddwr BBC Cymru ddydd Mercher 22 Ebrill am 10am. Ceir manylion yma. Anfonwch unrhyw gwestiynau am eu cefnogaeth yn ystod COVID-19 i creativecardiff@caerdydd.ac.uk.

Mae ein rhestr o adnoddau am y cyfleoedd cyllido diweddaraf yn ystod COVID-19 i'w gweld yma. Rydym yn parhau i ddiweddaru'r rhestr hon mor aml â phosibl.