Amanda Spence

Pensaer - Partner yn ALT-Architecture

Mae Amanda yn bensaer cymwysedig ac yn gyd-sylfaenydd ALT-Architecture. Ethos ALT-Architecture yw creu adeiladau a mannau sy’n gydlynol syml, wedi’u rhoi at ei gilydd yn gain, yn flaengar ac yn greadigol, yn gynaliadwy yn y bôn ac yn bwysicach oll, yn croesawu’r ymdeimlad o le. Mae dull amgen y stiwdio o fynd ati i ymarfer yn archwilio ymyl pensaernïaeth, lle mae’n cwrdd â’r disgyblaethau celf, tirwedd a damcaniaeth. Mae hyn yn fwriadol yn eu gwneud yn unigryw ac yn herio rhagdybiaethau sydd o werth ym maes pensaernïaeth.